Y
'pos mwyaf a phwysicaf' rydym yn ei wynebu fel pobl yw ni ein hunain
(Boring, 1950, tud. 56). Mae pobl yn bos - yn bos cymhleth, cynnil ac
amlhaenog, a daw'n fwy cymhleth fyth wrth i ni esblygu dros amser a
newid o fewn cyd-destunau gwahanol.
Wrth ateb y cwestiwn 'Beth sy'n ein gwneud ni yn pwy ydym ni?', mae
seicolegwyr yn cyflwyno amrywiaeth o esboniadau pam bod pobl yn teimlo,
yn meddwl ac yn ymddwyn fel ag y maent. Pan fydd yn ymddangos bod
seicolegwyr yn deall un rhan o 'pwy ydym ni', daw tystiolaeth newydd i
ddangos ochr wahanol i'r amlwg! Nid yw'n hawdd nodi'r holl ddylanwadau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
Ar ôl cwblhau'r uned, dylech allu gwneud y canlynol:
dadansoddi amrywiaeth o ffactorau o fewn a'r tu allan i unigolion sy'n dylanwadu ar y meddwl ac ar ymddygiad.
ystyried dylanwadau lluosog mewn astudiaethau achos;
disgrifio'r ffordd y mae dylanwadau wedi'u cysylltu mewn ffyrdd cymhleth;
trafod y ffactorau lluosog sy'n dylanwadu ar yr hyn sy'n ein gwneud yn hapus.