Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Sgemâu

Sgema yw'r gair a ddefnyddir gan seicolegwyr i ddisgrifio fframwaith meddwl lle y byddech yn ffeilio eich holl wybodaeth am wrthrychau penodol, sefyllfaoedd penodol, grwpiau penodol o bobl ac hyd yn oed chi eich hun. Byddai'n cynnwys eich pecyn meddwl cyfan pan fyddwch yn meddwl am rywbeth. Er enghraifft, pe byddwch yn cymhwyso'r broses llunio cysyniad i'r gair deintydd, fwy na thebyg y byddech yn categoreiddio deintydd fel galwedigaeth. Fodd bynnag, pe byddech yn rhestru popeth rydych yn ei gysylltu â'r gair deintydd, byddai hyn yn rhoi eich sgema deintydd i chi. Gall eich sgema gynnwys eitemau fel ystafell aros, ofn, cadair deintydd, sŵn y dril, arogl golch ceg gwrthseptig ac ati.

Defnyddiwyd y term sgema (lluosog sgemâu neu sgemata) gan seicolegydd dylanwadol o'r Swistir o'r enw Jean Piaget. Treuliodd Piaget, a fu farw yn 1980, dros 50 mlynedd yn ymchwilio i'r ffordd y mae plant yn datblygu eu sgiliau meddwl neu eu sgiliau gwybyddol. Cynigiodd eu bod yn gwneud hynny drwy ddatblygu sgemâu sy'n seiliedig ar eu profiad o'r byd.

Gellid ystyried bod eich cof yn gabinet ffeilio enfawr a bod pob ffeil yn y cabinet yn sgema. Pe byddech yn agor y sgema â'r label 'mynd i'r sinema', byddai'n cynnwys eich holl wybodaeth am ymweliadau â'r sinema (e.e. prynu tocyn, eistedd yn y tywyllwch, gweld ffilm, pobl eraill o amgylch, bwyta popgorn). Os byddech yn mynd i sinema nad oeddech erioed wedi bod iddi o'r blaen, ni fyddai'n rhaid i chi ddechrau o’r dechrau wrth geisio darganfod beth i'w wneud. Yn syml, byddech yn agor eich sgema 'mynd i'r sinema' i'ch tywys drwy'r camau. Drwy wneud hyn, mae sgemâu yn ein helpu i ymdrin yn fwy effeithlon â'r byd o'n cwmpas fel y gallwn gymhwyso ein gwybodaeth am sefyllfaoedd tebyg yn y gorffennol i'n helpu i weithredu'n briodol wrth ddod ar draws sefyllfa newydd.

Bydd llawer o'r wybodaeth a ddelir gennym yn ein sgemâu yn wybodaeth a rennir gyda phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg i ni. Fodd bynnag, lle bydd ein profiadau yn wahanol, bydd ein sgemâu hefyd yn wahanol. Er enghraifft, os ydych yn hoff iawn o bêl-droed, bydd eich sgema ar gyfer pêl-droed yn cynnwys llawer o wybodaeth fanwl am dimau penodol, cynghreiriau, cystadlaethau pencampwriaeth ac hyd yn oed fanylion rheol yr ochr agored. Os nad ydych yn hoffi pêl-droed, mae'n bosibl mai dim ond y wybodaeth mai gêm awyr agored ydyw sy'n defnyddio pêl, nifer o chwaraewyr a chynulleidfa ac y dylech ei hosgoi lle bynnag y bo'n bosibl fydd yn eich sgema ar gyfer pêl-droed.

Gall sgemâu ein helpu i gofio gwybodaeth gan eu bod yn darparu fframwaith trefnu er mwyn gallu storio'r wybodaeth yn briodol a gallant ddarparu prociau i'n cof.

Cynhaliodd John Bransford a Marcia Johnson (1972) nifer o arbrofion a ddangosodd rôl sgemâu o ran ein gallu i ddeall a chofio gwybodaeth. Mewn un arbrawf, darllenwyd y darn isod i'r cyfranogwyr ac wedyn gofynnwyd iddynt ei gofio mor gywir â phosibl. Fodd bynnag, rhoddwyd teitl ar gyfer y darn canlynol i hanner y cyfranogwyr a rhoddwyd y darn heb y teitl i'r cyfranogwyr eraill.

The procedure is actually quite simple. First you arrange things into different groups… Of course, one pile may be sufficient depending on how much there is to do. If you have to go somewhere else due to lack of facilities that is the next step, otherwise you are pretty well set. It is important not to overdo any particular endeavour. That is, it is better to do too few things at once than too many. In the short run this may not seem important, but complications from doing too many can easily arise. A mistake can be expensive as well… At first the whole procedure will seem complicated. Soon, however, it will become just another facet of life. It is difficult to foresee any end to the necessity for this task in the immediate future, but then one never can tell. After the procedure is completed one arranges the materials into different groups again. Then they can be put into their appropriate places. Eventually they will be used once more and the whole cycle will have to be repeated. However, that is part of life.

(Bransford a Johnson 1972 tud. 722)

Noda'r rhan fwyaf o bobl eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn deall y darn heb sôn am geisio cofio'r manylion. Fodd bynnag, os ailddarllenwch y darn gan ystyried y teitl 'Washing Clothes', dylai popeth wneud synnwyr. Mae'r teitl yn darparu sgema fel y gellir storio'r wybodaeth yn briodol a'i chofio'n haws.