Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Datblygu strategaethau astudio effeithiol
Datblygu strategaethau astudio effeithiol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Dysgu gweithredol

Beth a olygwn gan ddysgu gweithredol? Gyda dysgu gweithredol rydych yn ymgysylltu â’r cynnwys neu’r meysydd pwnc, ac yn ystyried themâu, dulliau, syniadau a chysyniadau’r cwrs. Weithiau mae’n rhy hawdd cymryd eich deunyddiau a’u darllen, yn hytrach na cheisio canfod ffyrdd o ddeall deunydd y cwrs. Defnyddiwch ddull gweithredol drwy: [Gyda dysgu gweithredol rydych yn ymgysylltu â’r cynnwys neu’r meysydd pwnc, ac yna cheisio canfod ffyrdd o ddeall deunydd y cwrs.]

  • adeiladu ar y wybodaeth sydd gennych eisoes
  • holi cwestiynau yn barhaus am y pynciau i’w dysgu
  • gwneud pethau, fel gwneud nodiadau sy’n helpu i wneud y pwnc yn ystyrlon i chi.

Nid yw dysgu yn broses linellog syml. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ddysgu fel proses barhaus lle rydych yn gwella eich dealltwriaeth. Gallwch ystyried agweddau ar eich dysgu fel troell ddysgu (gweler Ffigur 1 ). Er enghraifft, wrth i chi ‘symud o amgylch’ y droell weithiau rydych yn sylweddoli bod y syniadau a fu unwaith yn anodd eu deall yn gliriach i chi nawr, ac rydych am symud yn eich blaen i ystyried syniadau newydd.

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn eich astudiaethau, mae angen i chi hefyd gael eich ysgogi a bod ag awydd i ddysgu. Yn ddelfrydol, mae gennych ddiddordeb yn y cwrs ac rydych wedi nodi eich nodau eich hun sy’n ymwneud â’ch astudiaethau. Byddwch yn ymwybodol o:

  • nodau tymor byr a all amrywio (e.e. mynd i’r afael â chysyniad anodd, cwblhau aseiniad)
  • nodau tymor hir, a allai gynnwys y rhai sy’n ymwneud â datblygiad eich gyrfa, fel llwyddo mewn cwrs, neu ennill cymhwyster.

Bydd y dull hwn yn eich helpu pan fydd angen i chi ddechrau ar dasg astudio benodol, a phan fydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich amser a blaenoriaethu.

Weithiau cyflwynir strategaethau neu sgiliau astudio fel petaent yn gweithio i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, os nad pob un. Mewn gwirionedd bydd gennych ddewisiadau, dulliau neu arferion sy’n gweithio i chi. Mae’n werth cofio bod strategaethau gwahanol yn ddefnyddiol mewn cyd-destunau gwahanol a chyda thasgau a gweithgareddau astudio penodol. Bydd angen i chi gydnabod beth sy’n gweithio i chi yn gyffredinol, a pha strategaethau sy’n werthfawr ar gyfer gweithgareddau mwy penodol.

Ffynhonnell: Northedge, A. a Lane, A. (1997) ‘What is learning?’ Yn Northedge, A., Thomas, J., Lane, A. a Peasgood, A., The Sciences Good Study Guide, Milton Keynes, Y Brifysgol Agored, tud. 20-2.
Ffigur 1 Y Droell Ddysgu

‘Dwi’n dysgu’n bennaf drwy wrando. Meddyliais, dwi’n mynd i brynu recordydd llais digidol a thapio fy llais fy hun. Felly dyna’n union beth dwi’n ei wneud. Dwi’n tapio fy hun yn darllen darnau o fy llyfr, neu beth bynnag, ac yn cofnodi pwyntiau pwysig perthnasol ar fy recordydd digidol. Yna dwi’n gallu eu chwarae yn ôl ar fy iPod. Mae’n beth da nid yn unig pan dwi gartref ond pan dwi allan hefyd.’

Mae damcaniaethau sy’n awgrymu ein bod yn tueddu i fabwysiadu dulliau penodol o astudio neu ddysgu. Efallai y bydd yn well gennych ddysgu drwy ddull ‘ymarferol’, er enghraifft, drwy ymweld ag amgueddfa i’ch helpu gyda phwnc mewn gwyddoniaeth. Bydd rhai myfyrwyr yn dda am gofio gwybodaeth yn weledol ac yn cael budd o ddefnyddio mapiau meddwl neu bosteri dysgu y gallant eu gosod ar y wal. I fyfyrwyr eraill mae’n werth gwrando ar recordiad o ddeunyddiau eu cwrs gan ei bod yn haws iddynt nodi gwybodaeth yn y ffordd hon.

Felly gall gwybod beth yw eich dewis dull o ddysgu fod yn ddefnyddiol ac yna gallwch ailystyried sut y gallech ddefnyddio technegau astudio yn effeithiol.