4 Bod yn fyfyriol
Mae gan fyfyrdod rôl bwysig i’w chwarae mewn dysgu a hunanddatblygiad. Mae rhai elfennau allweddol o fyfyrdod, a bydd angen i chi ddatblygu eich dewis ffyrdd eich hun. Gellid disgrifio myfyrdod fel:
- meddwl gyda diben
- bod yn feirniadol, ond nid yn negyddol
- dadansoddi pa mor effeithiol yw eich dysgu
- holi a stilio
- llunio barn a dod i gasgliadau.
Mae mathau gwahanol o fyfyrfod. Er enghraifft, gellir defnyddio myfyrdod ar sail cwestiynau mewn ffordd strwythuredig ar gwrs i’ch tywys drwy’r broses fyfyriol. Yma rydych yn myfyrio drwy ateb cyfres o gwestiynau, a ddefnyddir fel prociau i’r cof. I’r gwrthwyneb, mae myfyrdod agored yn gymharol ddistrwythur, a gall technegau megis ysgrifennu’n rhydd a mapio meddwl gael eu defnyddio i gynhyrchu syniadau (Cottrell, 2003).
Ewch i’r arfer o adolygu a myfyrio ar eich profiadau fel rhan o’ch dysgu bob dydd. Fel hyn, bydd pob profiad -boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn cyfrannu at eich datblygiad a’ch twf personol. Mae profiad a ailadroddir heb fyfyrdod yn ailadroddiad, nad yw’n eich helpu i ddysgu. [Ewch i’r arfer o adolygu a myfyrio ar eich profiadau fel rhan o’ch dysgu bob dydd.]
- Dylech ystyried myfyrdod fel rhywbeth sy’n ategu eich astudio.
- Defnyddiwch ef i roi trefn ar eich meddyliau a chanolbwyntio ar eich datblygiad.
- Cofnodwch eich meddyliau am unrhyw anawsterau neu heriau rydych yn eu hwynebu.
- Meddyliwch am unrhyw strategaethau a allai eich helpu i ddelio â thasgau neu aseiniadau anodd.
- Defnyddiwch ef i’ch helpu i feddwl am sut y mae pynciau’r cwrs yn ymwneud â meysydd eraill eich profiad.