5 Rheoli eich amser a’ch lle
Yng nghyd-destun dysgu effeithiol, yn ogystal â neilltuo amser ar gyfer astudio bydd angen gwneud y defnydd gorau o’r amser gwerthfawr hwnnw (gweler Ffigur 4). Er mwyn astudio a dysgu’n llwyddiannus bydd angen i chi feistroli tri phrif faes sy’n ymwneud â rheoli amser.
- Rhoi trefn ar bethau a dod o hyd i fannau priodol i astudio ynddynt.
- Cynllunio a blaenoriaethu yn barhaus.
- Delio ag ymyriadau.