Casgliad
Fel myfyriwr byddwch yn datblygu strategaethau astudio sy’n gweddu i chi, ac yn dysgu sut i wybod pa sgiliau a thechnegau astudio sy’n werthfawr ar gyfer tasgau a heriau penodol. Fe welwch hefyd y bydd myfyrio ar yr hyn sy’n gweithio’n dda yn eich astudiaethau yn eich helpu i ddatblygu wrth i chi roi dulliau gwahanol ar waith ac adolygu eu heffeithiolrwydd.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn defnyddio ystod o sgiliau sydd gennych eisoes (e.e. sgiliau trefnu a chynllunio) ac yn caffael sgiliau newydd, a fydd yn werthfawr mewn meysydd eraill o’ch bywyd (e.e. mewn gwaith cyflogedig neu waith gwirfoddol). Bydd y rhain yn cynnwys sgiliau trosglwyddadwy neu’r hyn a elwir yn aml yn sgiliau cyflogadwyedd megis blaengaredd, datrys problemau a llythrennedd cyfrifiadurol.
Mae gwybod pryd bydd angen help arnoch a ble i fynd i gael help yn bwysig yn enwedig os gwelwch fod angen i chi wella sgiliau astudio penodol. Gall eich tiwtor neu gynghorydd astudio, neu eich canolfan ranbarthol fod yn ffynonellau cymorth.
Cofiwch nad oes raid i chi astudio ar eich pen eich hun bob amser, oherwydd gallwch gadw mewn cysylltiad â myfyrwyr eraill i rannu syniadau, technegau ac awgrymiadau. Er mwyn gwneud hyn gallwch ymuno â grŵp astudio neu sefydlu un, neu ddefnyddio fforymau sgwrsio’r Brifysgol Agored ar-lein. Mae llawer o gyrsiau yn rhedeg fforymau ar-lein lle y gallwch hefyd gymryd rhan mewn trafodaethau.