2.1 Pwysigrwydd adborth
[Mae’n bwysig ei ystyried yn ofalus bob tro gan y rhoddir cyngor efallai y gallech weithredu arno a’i ymgorffori mewn aseiniadau yn y dyfodol.] Mae dysgu o adborth yn weithgarwch pwysig wrth ddatblygu fel dysgwr. Nid dull ar gyfer barnu eich perfformiad fel myfyriwr yn unig yw asesiad parhaus yn y Brifysgol Agored, ond bwriedir iddo hefyd fod yn rhan o’r broses o ddysgu - ond mae angen i chi ymroi i’r broses hon.
Gwneir llawer iawn o ddysgu drwy gwblhau gweithgareddau ac aseiniadau cwrs, a chael adborth arnynt. Er enghraifft, yn ystod y cwrs gallwch ddefnyddio fforymau trafod ar-lein ar gyfer gweithgarwch cwrs lle rydych yn gweithio gyda myfyrwyr eraill. Mae hyn yn gyfle i gael adborth ar eich syniadau neu ddealltwriaeth o bwnc.
Byddwch yn cael adborth ar eich aseiniadau ac mae’n bwysig ei ystyried yn ofalus bob tro gan y rhoddir cyngor efallai y gallech weithredu arno a’i ymgorffori mewn aseiniadau yn y dyfodol, a allai wella eich graddau. Weithiau mae’n helpu i aros ychydig ddyddiau i ddarllen yr adborth eto, oherwydd efallai y gallwch fod yn fwy gwrthrychol wedyn.
- A ydych yn disgwyl y sylwadau?
- A ydych yn cytuno â’r sylwadau? Os nad ydych, ym mha ffyrdd rydych yn anghytuno?
- Pa gamau y gallwch eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn y sylwadau?
- Pa sgiliau penodol y mae angen i chi eu gwella yn eich barn chi?
Gofynnwch i’ch tiwtor neu gynghorydd astudio os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw beth yn yr adborth. Gallwch hefyd ofyn iddynt am gyngor ar wella eich sgiliau astudio.