Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Codi eich mater yn Senedd y DU

P’un ai a yw’r mater rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch yn un lleol, cenedlaethol neu ryngwladol, mae llawer o ffyrdd o godi proffil eich ymgyrch yn Senedd y DU. Gyda phwy ddylech chi fod yn siarad a beth allech chi ofyn iddyn nhw ei wneud?

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 6: Siambr drafod Tŷ’r Cyffredin Senedd y DU.

Oeddech chi’n gwybod... gallwch chi siarad â’ch Aelod Seneddol

Mae’r rhan fwyaf o ASau yn cynnal sesiynau rheolaidd o’r enw cymorthfeydd lle maent yn cwrdd ag etholwyr i siarad am faterion sy’n peri pryder – gall hyn fod wyneb yn wyneb neu ar-lein. Bydd gan wefan eich AS wybodaeth am gymorthfeydd etholaethol. Bydd yn helpu eich AS i’ch helpu chi os byddwch chi’n dod ag unrhyw ddogfennau neu wybodaeth gyda chi am y mater neu’r ymgyrch rydych chi eisiau ei thrafod. Mae manylion cyswllt eich AS ar gael yn: www.parliament.uk/ findyourmp [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Oeddech chi’n gwybod... gall ASau gynnal dadleuon

Gall ASau ofyn am amser ar gyfer dadleuon ar faterion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Maent yn cyflwyno’u hachos i Bwyllgor Busnes y Meinciau Cefn sy’n neilltuo amser ar faterion sydd â chefnogaeth drawsbleidiol eang ymhlith ASau, gyda llawer o ddadleuon yn cael eu cynnal drwy ymgyrchoedd.

Oeddech chi’n gwybod... Gall aelodau Tŷ’r Arglwyddi gefnogi eich ymgyrch

Ochr yn ochr â’ch AS lleol, efallai y bydd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi hefyd yn cefnogi eich ymgyrch. Penodir aelodau’r Arglwyddi yn aml oherwydd eu gwybodaeth a’u profiad mewn meysydd megis busnes, iechyd, addysg, y celfyddydau a chwaraeon. Maent yn chwarae rhan allweddol yn herio’r llywodraeth a gallant helpu i hyrwyddo eich achos gan fod ganddynt yn aml fwy o ryddid rhag gwleidyddiaeth bleidiol nag ASau. Nid yw Arglwyddi'n cynrychioli etholaeth benodol ond maent yn siarad am faterion sydd o ddiddordeb iddynt/maent yn arbenigwyr ynddynt. Gallwch chwilio am aelodau o'r Arglwyddi ar-lein y mae eu diddordebau a'u harbenigedd o ran polisi yn cyd-fynd â'ch ymgyrch ar www.parliament.uk/ lords

Oeddech chi’n gwybod... Gall aelodau’r ddau Dŷ ofyn cwestiynau i’r llywodraeth

Gallwch ofyn i aelodau’r ddau Dŷ gefnogi eich ymgyrch drwy ofyn iddynt gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i adrannau’r llywodraeth a gofyn cwestiynau yn y Siambrau. Gellir defnyddio cwestiynau i apelio am ragor o wybodaeth ac i bwyso am weithredu, felly ystyriwch pa fath o gwestiwn fyddai’n helpu eich ymgyrch fwyaf. Er enghraifft, gall ASau neu Arglwyddi ofyn i’r llywodraeth beth mae’n ei wneud ynghylch mater neu faint o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan broblem neu sydd wedi cael cymorth gan bolisi penodol. Gallant hefyd ddefnyddio cwestiynau fel ffordd uniongyrchol o annog y llywodraeth i weithredu.

Oeddech chi’n gwybod... mae yna Grwpiau Seneddol Hollbleidiol

Mae’r Grwpiau Seneddol Hollbleidiol yn grwpiau anffurfiol, trawsbleidiol a ffurfiwyd gan ASau ac aelodau o’r Arglwyddi sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn maes polisi, rhanbarth neu wlad benodol. Er nad ydynt yn bwyllgorau Seneddol swyddogol, gall y grwpiau hyn weithiau fod yn ddylanwadol oherwydd eu hagwedd amhleidiol tuag at fater. Os yw ffocws Grwpiau Seneddol Hollbleidiol yn cyd-fynd â’ch ymgyrch, gallech ofyn i aelodau a ydynt yn fodlon ychwanegu eu cefnogaeth. Gallwch ddarllen mwy am APPGs gan gynnwys rhestr o’r gwahanol grwpiau ar www.parliament.uk/ about/ mps-and-lords/ members/ apg/

Oeddech chi’n gwybod... mae yna bwyllgorau dethol

Gall unrhyw un gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar-lein i bwyllgor dethol. Efallai nad cyflwyno tystiolaeth i un yw’r peth cyntaf sy’n dod i’ch meddwl pan fyddwch eisiau codi proffil mater – ond gall dilyn pwyllgorau ar-lein a chyflwyno tystiolaeth gael effaith fawr ac arwain at newidiadau cadarnhaol.

Ar ddechrau ymchwiliad, mae pwyllgorau dethol yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig. Bydd pwyllgorau hefyd yn gwahodd partïon sydd â diddordeb i roi tystiolaeth lafar i’r pwyllgor lle gallant archwilio ffocws y dystiolaeth ysgrifenedig yn fwy manwl. Efallai y bydd eich profiad neu ffocws eich ymgyrch yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar ymchwiliad pwyllgor dethol. Gallwch ddilyn pwyllgorau dethol ar-lein a chael gwybod pryd mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal er mwyn i chi allu cyflwyno tystiolaeth ar-lein: www.parliament.uk/ about/ how/ committees/ select/