Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Cyflwyniad
Ac yntau wedi’i ysgrifennu mewn cyfnod heriol - yn amgylcheddol, yn economaidd, yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac o ran iechyd, mae ‘Cyflwyniad i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol’ yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer rhai o’r sgiliau dinasyddiaeth a’r wybodaeth wleidyddol allweddol sydd eu hangen arnoch i ymyrryd yn y byd wrth iddo newid o’ch cwmpas. Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn yn archwilio sut gallwch chi sicrhau newid gwleidyddol a chymdeithasol fel dinesydd gweithgar, gan roi gwybodaeth gefndir hanfodol i ddechrau arni, enghreifftiau o wneuthurwyr newid ysbrydoledig, cyngor ar sut i gael effaith y tu mewn a’r tu allan i wleidyddiaeth seneddol draddodiadol y DU, a’r rhinweddau sydd eu hangen i lwyddo. Mae’r cwrs wedi’i anelu’n bennaf at ddinasyddion y DU, er y bydd llawer o’r cynnwys yn berthnasol i bobl sy’n byw y tu allan i’r DU.
Mae’r cwrs OpenLearn hwn wedi’i addasu o ‘Changemakers: A Guide to Making Political and Social Change [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ’ gan y Brifysgol Agored, ond mae wedi cael ei ehangu i gynnwys gwybodaeth am y gwledydd datganoledig a newid byd-eang.
Mae’r cwrs OpenLearn hwn yn cysylltu â chwrs D113 y Brifysgol Agored: Global Challenges: Social Science in Action, nawr ar agor i gofrestru.