3 Sicrhau newid drwy’r gweinyddiaethau datganoledig
Yn y DU, o ganlyniad i ddatganoli, mae deddfwrfeydd ar wahân yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon: Senedd yr Alban, Senedd Cymru (neu Senedd), a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae gan y cyrff hyn y pŵer i lunio deddfau a darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn meysydd polisi penodol sydd wedi’u datganoli iddynt gan Senedd y DU. Sefydlwyd deddfwrfeydd Cymru a’r Alban ddiwedd y 1990au, ar ôl i’r cyhoedd bleidleisio ie dros ddatganoli. Roedd sefydlu Cynulliad Gogledd Iwerddon yn rhan allweddol o Gytundeb Gwener y Groglith ac fe’i cefnogwyd wedyn mewn refferendwm yn 1998.