5 Sicrhau newid y tu allan i wleidyddiaeth seneddol
Gweithio gyda chynghorau lleol
Yn y DU, efallai mai’r ffordd orau o ddelio â’r mater rydych am ei newid ar lefel ‘leol’, yw drwy weithio gyda’ch cynrychiolwyr etholedig lleol, a elwir yn gynghorwyr. Mae cynghorwyr yn cynrychioli eu cymuned leol, yn datblygu ac yn adolygu polisïau cynghorau, ac yn craffu ar benderfyniadau a wneir gan y cyngor. Gall fod yn lle da i ddechrau os yw’n fater ‘lleol’, er bod angen i chi wirio pwy sy’n gyfrifol cyn i chi ddechrau. Os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU, gallwch weithio gyda'ch cynrychiolwyr lleol eich hun.
Gweithio gyda’r celfyddydau a cherddoriaeth
Gallwch godi ymwybyddiaeth drwy gelf (‘artivism’) a chrefft (‘craftivism’), gan ddefnyddio creadigaethau gweledol i hyrwyddo achos gwleidyddol neu gymdeithasol. Yn yr un modd, gellir tynnu sylw at anghyfiawnderau cymdeithasol ac achosion gwleidyddol drwy berfformiad cerddorol a geiriau. Gall hyn fod yn ffordd dda o godi proffil achos, er y gall fod angen ymgyrchu mwy ‘ffurfiol’ a gweithredu ar y cyfryngau.
Cymryd rhan mewn gweithredu gan y cyfryngau
Efallai y byddwch yn teimlo bod hyn yn ffordd gyflym a rhad o godi proffil mater a chasglu cefnogaeth, gan gynnwys ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn cyfryngau ‘traddodiadol’ ‘prif ffrwd’. Mae’n cynnwys ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol, creu gwefannau a gwneud fideos. Caiff deisebau eu hysbysebu yn aml drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gael y cyfryngau traddodiadol (papurau newydd, newyddion ar y teledu) i roi sylw i’ch ymgyrch o hyd.
Cymryd rhan mewn darlledu
Mae cyfrannu at raglenni teledu a radio, a hyd yn oed eu hysgrifennu/cyflwyno, yn ffurf fwy traddodiadol o weithredu ar y cyfryngau. Bydd angen i chi feithrin rhywfaint o ddilynwyr ymgymryd â’r olaf, gan fod cyflwyno’n aml y tu hwnt i gyrraedd nes eich bod wedi meithrin lefel benodol o enw da, neu eich bod eisoes yn gweithio yn y maes hwn. Am y rheswm hwn, efallai y byddwch yn gweld ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol fel dull gweithredu cychwynnol gwell. Mae gwneud eich fideos eich hun a’u darlledu ar wefan fel YouTube yn ddewis arall hygyrch yn lle darlledu traddodiadol.
Ysgrifennu/cyhoeddi
Os ydych chi eisiau cyrraedd cynulleidfa eang, dylech wneud eich gwaith ysgrifennu’n hawdd ei ddeall, yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu golwg a’u clyw, yn hawdd dod o hyd iddo, yn rhad ac am ddim (neu’n rhad os caiff ei gyhoeddi’n broffesiynol), ac a allai fod yn rhyngweithiol (rhoi cyfle i bobl ymateb).
Mae’n ddefnyddiol ysgrifennu mewn mwy nag un modd, er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosib (os byddwch chi’n ysgrifennu adroddiad, dylech hefyd greu rhai negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ei grynhoi). Meddyliwch pwy rydych chi am ei gyrraedd a beth yw eich nodau, a dewis y dull(iau) sy’n addas. Gall y gair ysgrifenedig fod yn bwerus iawn, boed hynny ar ffurf newyddiaduraeth, llyfrau, barddoniaeth, adroddiadau, neu ysgrifennu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol (blogio, er enghraifft). Gallai’r gwaith gael ei gyhoeddi’n broffesiynol neu’n fwy anffurfiol, yn dibynnu ar y gynulleidfa a’ch nod.
Lobïo’r rheini sydd â dylanwad
Gallwch geisio dylanwadu ar eich cynrychiolydd etholedig drwy lobïo. Dyma’r ymdrech gyfreithlon i ddylanwadu ar lunwyr penderfyniadau gwleidyddol, fel ASau a gweinidogion y llywodraeth. Gall unigolion, grwpiau eiriolaeth/diddordeb arbennig lobïo, neu lobïwyr proffesiynol (arbenigwyr sy’n cael eu cyflogi i lobïo ar ran unigolyn neu grŵp). Mae’r rhan fwyaf o lobïo’n cael ei wneud gan fudiadau drwy eiriolaeth. Gallwch hefyd lobïo busnesau a sefydliadau – yn y bôn, pobl a sefydliadau sydd â phŵer neu sy’n gwneud penderfyniadau.
Cymryd rhan mewn gweithredu economaidd
Gallwch ddefnyddio eich grym economaidd i sicrhau newid. Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd:
- boicotio cwmnïau a sefydliadau nad ydych yn cytuno â’u gwerthoedd/ffordd o weithio, gan roi pwysau arnynt i newid eu hymddygiad, neu
- wobrwyo cwmnïau a sefydliadau ‘da’ drwy nawdd a chyfryngau cymdeithasol cadarnhaol.
Cymryd rhan mewn protest heddychlon
Gallwch geisio sicrhau newid drwy godi proffil mater drwy wrthdystiadau cyfreithiol a di-drais. Mae gwrthdystiadau heddychlon yn gyfreithlon dan gyfraith y DU, gyda chyfyngiadau. Ble bynnag rydych chi’n byw, mae’n syniad da edrych ar y canllawiau cyfreithiol cyfredol cyn cymryd rhan neu drefnu gwrthdystiad i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r rheolau cyfredol.
Gall y sylw a geir o wrthdystiadau heddychlon esblygu’n ddulliau mwy ffurfiol o ymgyrchu megis gwneud rhaglenni dogfen, siarad mewn cynadleddau, ysgrifennu ar gyfer papurau newydd ac ati.
Canolbwyntio ar eich cymuned leol
Gall sgyrsiau, cyflwyniadau a darlithoedd lleol yn y gymuned fod yn ffyrdd gwych i chi godi ymwybyddiaeth o fater. Gall hefyd fod yn ffordd dda o gasglu cefnogaeth a sefydlu grŵp ymgyrchu.
Gweithgaredd 5: sicrhau newid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
Fel y trafodir uchod, un o’r ffyrdd y gallwch chi geisio creu newid yw drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae Twitter, safle microflogio lle gallwch chi gyhoeddi negeseuon (‘trydar’) o 280 nod neu lai, yn ffordd boblogaidd o dynnu sylw at fater rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Gall pobl eraill ‘aildrydar’, ‘hoffi’, ac ymateb i’r negeseuon hyn.
Rydym wedi cysylltu rhai enghreifftiau o drydariadau ymgyrchu isod. Ar ôl i chi eu darllen, meddyliwch sut gallech chi ddefnyddio Twitter i gefnogi eich achos. Ceisiwch ddrafftio rhai trydariadau gan ddefnyddio’r enghreifftiau hyn fel templedi.
- Greta Thunberg [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
- Marcus Rashford