1 Dod yn wneuthurwr newid
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod o heriau niferus – amgylcheddol, economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol ac iechyd, ymysg pethau eraill. Cyfnod o heriau yn y DU ac yn fyd-eang. Dwy her fawr y mae’r byd yn ymateb iddynt ar hyn o bryd yw’r argyfwng hinsawdd ac etifeddiaeth trefedigaethau.
Sut gall pobl gyffredin wneud gwahaniaeth, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, i’r heriau hyn ac i eraill? Sut y gallant ddefnyddio Senedd y DU a’r seneddau/cynulliadau idatganoledig i sicrhau newid? Sut maen nhw’n gallu bod yn ‘wneuthurwr newid’?
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wneud gwahaniaeth drwy ddysgu am ymgysylltiad gwleidyddol a chymdeithasol, gan gynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth i bob gwneuthurwr newid, ni waeth pa mor fach ydyw.