2 Gwneud newid drwy Senedd y DU
Mae cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn un o’r ffyrdd pwysicaf o sicrhau newid: felly, mae angen i chi bleidleisio! Os na fyddwch chi’n pleidleisio, chewch chi ddim dweud pwy sy’n cael ei ethol a phwy sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi. Os ydych chi’n byw yn y DU, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed mewn etholiad cyffredinol yn y DU drwy gofrestru i bleidleisio yn www.gov.uk/ cofrestru-i-bleidleisio [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae cofrestru drwy ddefnyddio’r ddolen hon hefyd yn rhoi’r hawl i chi bleidleisio mewn etholiadau lleol, etholiadau comisiynydd maerol, yr heddlu a throseddu, ac etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban a Senedd Cymru os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd hynny, yn ogystal ag mewn refferenda.
Mae’r oedran pan fyddwch chi’n gymwys i bleidleisio yn dibynnu ar y math o etholiad a lle rydych chi’n byw yn y DU. Rhaid i chi fod yn 18 oed i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU. Gallwch bleidleisio’n bersonol, drwy’r post, neu gael dirprwy (gofyn i rywun bleidleisio drosoch).