Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Mae’r DU yn wynebu argyfyngau niferus: amgylcheddol, economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol ac iechyd. Mae’r cwrs ar-lein am ddim hwn yn amlinellu rhai o’r sgiliau dinasyddiaeth allweddol a’r wybodaeth sydd eu hangen i ymyrryd yn y byd wrth iddo newid.

Mae’n archwilio sut i wneud newid yn wleidyddol ac yn gymdeithasol trwy roi gwybodaeth gefndir hanfodol i ddechrau, enghreifftiau o wneuthurwyr newid ysbrydoledig, cyngor ar sut i gael effaith o fewn a thu allan i wleidyddiaeth seneddol draddodiadol y DU, a’r rhinweddau sydd eu hangen i lwyddo.

  • Sut gallwch chi wneud gwahaniaeth, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, i'r heriau hyn ac eraill?
  • Sut y gellir defnyddio Senedd y DU?
  • Sut gall y seneddau/cynulliadau datganoledig wneud newid?
  • Sut gallwch chi fod yn wneuthurwr newid?

Bydd y cwrs ar-lein am ddim hwn yn archwilio ymgysylltiad gwleidyddol a chymdeithasol ac yn cynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth i bob gwneuthurwr newid, ni waeth pa mor fach ydyw.


Trawsgrifiad

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • adnabod rhai o'r heriau presennol yn y DU a/neu fyd-eang sydd o ddiddordeb i chi.
  • deall beth mae 'dinasyddiaeth weithgar' yn ei olygu.
  • deall sut i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol fel dinesydd gweithgar: sut i fod yn 'wneuthurwr newid'
  • deall gwaith sefydliadau gwleidyddol y DU a'r rôl sydd ganddynt o ran sicrhau newid, yn ogystal â ffyrdd eraill o sicrhau newid
  • nodi a gallu defnyddio rhai o'r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen i sicrhau newid mewn sefyllfaoedd go iawn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2022

Wedi'i ddiweddaru: 29/09/2022

Hepgor Graddau y Cwrs