Casgliad
Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol, rydych wedi dysgu am y canlynol:
- Rhai o’r heriau presennol yn y DU ac yn fyd-eang sydd o ddiddordeb i chi.
- Beth yw ystyr ‘dinasyddiaeth weithgar’.
- Sut i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol fel dinesydd gweithgar: sut i fod yn 'wneuthurwr newid'.
- Gwaith sefydliadau gwleidyddol y DU a’r rôl sydd ganddynt o ran sicrhau newid, yn ogystal â ffyrdd eraill o greu newid.
- Sut mae defnyddio rhai o’r sgiliau a’r wybodaeth allweddol sydd eu hangen i sicrhau newid mewn sefyllfaoedd go iawn.
Wedi’i ysgrifennu mewn cyfnod o heriau niferus, mae’r cwrs wedi rhoi sylfaen i chi i rai o’r sgiliau a’r wybodaeth allweddol am ddinasyddiaeth sydd eu hangen arnoch i ymyrryd yn y byd wrth iddo newid o’ch cwmpas.
Wrth edrych ar y materion hyn, rydych wedi archwilio sut y gallwch greu newid gwleidyddol a chymdeithasol, gwybodaeth gefndir hanfodol i ddechrau arni, enghreifftiau o wneuthurwyr newid ysbrydoledig, cyngor ar sut i gael effaith o fewn a thu allan i wleidyddiaeth seneddol draddodiadol y DU, a’r rhinweddau sydd eu hangen i lwyddo.