Mynd i'r prif gynnwys

Ennill ar gyfer Twf

Croeso i'r rhaglen Ennill ar gyfer Twf.

Myfyrwyr mewn llyfrgell

Crëwyd, cynlluniwyd a chychwynnwyd y cydsyniad Ennill ar gyfer Twf gan Goleg Gwent i ysbrydoli a chefnogi cynnydd ystyrlon ar gyfer ein dysgwyr. Mae'n cynrychioli gweledigaeth ac ymroddiad ein sefydliad i newid bywydau drwy ddysgu.

Logo Ennill ar gyfer Twf
Mae Ennill ar gyfer Twf yn rhaglen sydd wedi'i dylunio i'ch cefnogi drwy gydol eich taith Addysg Uwch (AU) o fewn y coleg a thu hwnt. Mae'r cyfan yn ymwneud â'ch helpu chi i fagu hyder, datblygu eich sgiliau, a deall eich twf eich hun. . 

Trwy Ennill ar gyfer Twf, bydd gennych y cyfle i fyfyrio ar eich cryfderau, cydnabod meysydd sydd angen eu datblygu, ac olrhain eich cynnydd dros amser. Mae'r rhaglen yn un sy’n unol â chyflymder a rheolaeth y dysgwr ei hun, gan ganiatáu i chi ymgysylltu yn y ffordd sy'n gweithio orau i chi. Nid prawf na llwyth gwaith ychwanegol yw hyn - mae'n ffordd o'ch helpu i gael mwy allan o'ch astudiaethau a theimlo'n fwy hyderus yn eich galluoedd. 

Hefyd ar gael yn Saesneg. / Also available in English.

 

Dechrau arni 

Archwiliwch y fframwaith sgiliau drwy ddewis y meysydd sydd fwyaf perthnasol i chi, o gymwyseddau Lefel 4 hyd at sgiliau lefel graddedig. Gallwch hofran dros bob maes sgiliau i ddysgu mwy am yr hyn y mae'n ei olygu a sut y gall gefnogi eich twf.

Wrth i chi weithio drwy'r platfform, gallwch gwblhau gweithgareddau ac ystyried cyfleoedd datblygu sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i feithrin dealltwriaeth gliriach o'ch galluoedd, nodi meysydd ar gyfer twf pellach, a datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i gyflawni eich nodau.


Neidio i: 

Ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau Lefel 4: Ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau
Bodloni disgwyliadau Lefel 4: Bodloni disgwyliadau
Datblygu sgiliau academaidd Lefel 5: Datblygu sgiliau academaidd
Hunanreolaeth Lefel 5: Hunanreolaeth
Meddwl beirniadol uwch Lefel 6: Meddwl beirniadol uwch
Cyfathrebu Lefel 6: Cyfathrebu
Datblygiad proffesiynol estynedig Graddedig: Datblygiad proffesiynol estynedig
Cymorth OpenLearn Cymorth OpenLearn


Lefel 4: Ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau

Lefel 4 - Ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau

Cyflwyniad i ddisgwyliadau allweddol astudio, gan helpu dysgwyr i ddeall sut mae systemau academaidd yn gweithredu, beth sy'n ofynnol ar gyfer dysgu llwyddiannus, a sut i reoli cyfrifoldebau astudio a chyfrifoldebau personol. Mae hefyd yn cefnogi ymwybyddiaeth o uniondeb academaidd a defnydd cyfrifol o AI mewn dysgu. Cliciwch i ehangu pob adran..

Bywyd myfyrwyr a datblygu hyder

Trosolwg o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i reoli bywyd fel myfyriwr, gan gynnwys lles, cyllid, perthnasoedd, a chydbwyso astudio â chyfrifoldebau bob dydd.

Ymwybyddiaeth o AI

Cyflwyniad i AI a'i rôl mewn dysgu, gan gynnwys sut y gellir ei ddefnyddio'n gyfrifol, ei gyfyngiadau, a'r gwahaniaethau rhwng gwaith dynol a gwaith a gynhyrchir gan AI.

Sylfeini ysgrifennu academaidd

Cyflwyniad i'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer ysgrifennu academaidd effeithiol, gan gynnwys strwythur, eglurder, defnyddio iaith briodol, a chyfeirnodi cywir.

Cyllid personol

Cyflwyniad i gyllid personol.


Lefel 4: Bodloni disgwyliadau

Lefel 4 - Bodloni disgwyliadau

Mae'r maes hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau craidd sydd eu hangen i fodloni disgwyliadau academaidd a phroffesiynol. Mae'n canolbwyntio ar fagu hyder mewn ysgrifennu, defnyddio offer digidol yn effeithiol, paratoi ar gyfer asesiadau, a datblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant academaidd ac ymarfer proffesiynol yn y dyfodol. Cliciwch i ehangu pob adran.

Llythrennedd Digidol

Trosolwg o'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio technolegau digidol yn effeithiol ar gyfer dysgu, gan gynnwys cael mynediad at wybodaeth, gweithio ar-lein, a defnyddio offer digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Paratoi ar gyfer asesiadau ac arholiadau

Canllawiau ar ddatblygu arferion astudio effeithiol, rheoli amser, a defnyddio strategaethau adolygu i baratoi'n hyderus ar gyfer asesiadau ac arholiadau.

Ymarfer Proffesiynol

Trosolwg o'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle, gan gynnwys cyfathrebu, profiad gwaith, cynllunio gyrfa, ac ennill profiad perthnasol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Datblygu sgiliau academaidd

Trosolwg o'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn astudiaeth lefel uwch, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, dysgu annibynnol, ac ymgysylltu'n effeithiol â deunydd academaidd.

Uniondeb academaidd

Canllawiau ar gynhyrchu eich gwaith eich hun yn onest ac yn gyfrifol, gan gynnwys deall llên-ladrad, ac arfer academaidd da.


Lefel 5: Datblygu sgiliau academaidd

Lefel 5: Datblygu sgiliau academaidd

Mae'r maes hwn yn canolbwyntio ar gryfhau galluoedd academaidd dysgwyr drwy feithrin hyder, meddwl yn greadigol, ac ymgysylltu'n effeithiol ag adborth. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, gan helpu dysgwyr i fireinio eu sgiliau a'u rhoi ar waith mewn cyd-destunau academaidd ac yn y byd go iawn. Cliciwch i ehangu pob adran.

Hyder

Magu hyder yn eich galluoedd eich hun a datblygu'r hunanhyder i ymdrin â dysgu, heriau a sefyllfaoedd newydd yn gadarnhaol.

Meddwl yn greadigol

Datblygu'r gallu i gynhyrchu syniadau, meddwl yn ddychmygus, ac ymdrin â thasgau mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae hyn yn cynnwys ystyried gwahanol safbwyntiau a chymhwyso creadigrwydd i ddatrys problemau a chyfathrebu.

Ymateb i adborth

Datblygu'r gallu i ddeall a myfyrio ar adborth a’i roi ar waith i wella eich gwaith a chefnogi eich twf personol ac academaidd.

Datblygiad proffesiynol

Meithrin y sgiliau, y profiad a'r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i dyfu'n bersonol a llwyddo mewn amgylchedd proffesiynol, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu ac ymgysylltu â chyfleoedd megis gwirfoddoli.


Lefel 5: Hunanreolaeth

Lefel 5: Hunanreolaeth

Mae'r maes hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r gallu i reoli amser, llwyth gwaith a chyfrifoldebau personol yn effeithiol. Mae hefyd yn cynnwys meithrin ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a materion byd-eang, dod yn ddysgwr mwy hunangyfeiriedig, a defnyddio AI mewn ffordd foesegol a chyfrifol i gefnogi astudio annibynnol. Cliciwch i ehangu pob adran.

Strategaethau rheoli amser a llwyth gwaith

Adnoddau i'ch helpu i reoli eich amser a'ch llwyth gwaith yn fwy effeithlon.

Cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth fyd-eang

Cydnabod effaith gweithgaredd dynol ar yr amgylchedd a deall pwysigrwydd gwneud penderfyniadau cynaliadwy a chyfrifol mewn cyd-destun byd-eang.

Dysgu hunangyfeiriedig

Datblygu'r gallu i gymryd perchnogaeth o'ch dysgu trwy ddefnyddio dulliau effeithiol o ddarllen, cymryd nodiadau a dadansoddi gwybodaeth. Mae hyn yn cefnogi mwy o annibyniaeth, hyder a hyblygrwydd wrth reoli eich astudiaethau'n llwyddiannus.

Defnydd moesegol a chymhwysol o AI

Deall sut i ddefnyddio offer AI yn gyfrifol ac yn foesegol wrth reoli eich dysgu a'ch llwyth gwaith eich hun yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pryd a sut i ddefnyddio AI ochr yn ochr â datblygu annibyniaeth, trefniadaeth a hunanddisgyblaeth.


Lefel 6: Meddwl beirniadol uwch

Lefel 6: Meddwl beirniadol uwch

Mae'r maes hwn yn datblygu sgiliau meddwl lefel uwch, gan alluogi dysgwyr i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth, asesu risg, a ffurfio barn broffesiynol wybodus. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad academaidd pellach ac yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i ymgysylltu ag ymchwil a thystiolaeth mewn ffordd fwy beirniadol ac annibynnol. Cliciwch i ehangu pob adran.

Asesu risg a barn broffesiynol

Datblygu'r gallu i werthuso risgiau, gwneud penderfyniadau gwybodus, a chymhwyso meddwl beirniadol i sefyllfaoedd cymhleth. Mae hyn yn cynnwys defnyddio tystiolaeth, barn a dadansoddiad i ymateb yn effeithiol mewn cyd-destunau academaidd a phroffesiynol.

Gweithio fel ymchwilydd

Datblygu'r sgiliau i ymchwilio i bynciau, casglu a dadansoddi gwybodaeth, a defnyddio tystiolaeth i lywio casgliadau mewn cyd-destunau academaidd a phroffesiynol.

Datblygiad academaidd pellach

Datblygu eich sgiliau academaidd ymhellach i lefel uwch, gan gynnwys meddwl beirniadol dyfnach, technegau ymchwil wedi’i mireinio, a gwaith ysgrifenedig a dadansoddol mwy datblygedig.


Lefel 6: Cyfathrebu

Lefel 6: Cyfathrebu

Mae'r maes hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu uwch mewn cyd-destunau academaidd a phroffesiynol, gan gynnwys gweithio gydag eraill, cymhwyso rhesymu moesegol, a chyflwyno syniadau'n glir. Mae'n cefnogi cydweithio, entrepreneuriaeth, a datrys problemau arloesol mewn sefyllfaoedd byd go iawn. Cliciwch i ehangu pob adran.

Rhesymu moesegol a gwneud penderfyniadau

Datblygu'r gallu i werthuso sefyllfaoedd yn feddylgar, gwneud penderfyniadau cyfrifol a gwybodus, a chyfleu syniadau'n glir, yn broffesiynol, ac yn onest.

Gweithio ar y cyd

Datblygu'r gallu i weithio'n effeithiol gydag eraill, cyfrannu syniadau, cymryd rhan mewn trafodaethau, a chefnogi nodau cyffredin fel rhan o dîm.

Entrepreneuriaeth

Datblygu'r gallu i gynhyrchu syniadau, adnabod cyfleoedd, a defnyddio menter i droi cysyniadau yn ganlyniadau ymarferol mewn cyd-destunau academaidd, proffesiynol, neu fusnes.

Arloesi a datrys problemau cymhleth

Datblygu'r gallu i feddwl yn greadigol, addasu i heriau newydd, a chymhwyso strategaethau effeithiol i ddatrys problemau cymhleth ac anghyfarwydd gyda hyder a gwydnwch.


Graddedig: Datblygiad proffesiynol estynedig

Sgiliau graddedig: Datblygiad proffesiynol estynedig

Mae'r maes hwn yn canolbwyntio ar baratoi dysgwyr ar gyfer rolau proffesiynol drwy ddatblygu cyfeiriad gyrfa, hyder, ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth broffesiynol. Mae hefyd yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth a’r gallu i ddylanwadu ar eraill mewn modd strategol mewn amgylcheddau cymhleth sy’n esblygu. Cliciwch i ehangu pob adran.

Datblygiad gyrfa

Datblygu'r sgiliau, y meddylfryd a'r profiad sydd eu hangen i greu cyfleoedd, datblygu gyrfa a llwyddo yn y gweithle.

Hunaniaeth broffesiynol, hyder ac ymreolaeth

Datblygu ymdeimlad clir o'ch hunaniaeth broffesiynol, meithrin hyder yn eich galluoedd, a chymryd cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch penderfyniadau eich hun.

Arweinyddiaeth a dylanwad strategol

Datblygu'r gallu i arwain, rhoi arweiniad i eraill, a gwneud penderfyniadau gwybodus, wrth ddylanwadu ar bobl a chanlyniadau i gyflawni nodau cyffredin.


Cymorth OpenLearn

Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am OpenLearn yn yr adran gymorth.

Mae'r canllaw fideo canlynol hefyd ar gael i ddysgwyr Ennill ar gyfer Twf:


Datblygwyd yr adnodd hwn gan Goleg Gwent a'r Brifysgol Agored yng Nghymru gyda chefnogaeth gan Medr.

Logo Ennill ar gyfer Twf

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?