Mae’r DU yn wynebu argyfyngau niferus: amgylcheddol, economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol ac iechyd. Mae’r cwrs ar-lein am ddim hwn yn amlinellu rhai o’r sgiliau dinasyddiaeth allweddol a’r wybodaeth sydd eu hangen i ymyrryd yn y byd wrth iddo newid.
Mae’n archwilio sut i wneud newid yn wleidyddol ac yn gymdeithasol trwy roi gwybodaeth gefndir hanfodol i ddechrau, enghreifftiau o wneuthurwyr newid ysbrydoledig, cyngor ar sut i gael effaith o fewn a thu allan i wleidyddiaeth seneddol draddodiadol y DU, a’r rhinweddau sydd eu hangen i lwyddo.
Sut gallwch chi wneud gwahaniaeth, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, i'r heriau hyn ac eraill?
Sut y gellir defnyddio Senedd y DU?
Sut gall y seneddau/cynulliadau datganoledig wneud newid?
Sut gallwch chi fod yn wneuthurwr newid?
Bydd y cwrs ar-lein am ddim hwn yn archwilio ymgysylltiad gwleidyddol a chymdeithasol ac yn cynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth i bob gwneuthurwr newid, ni waeth pa mor fach ydyw.
Mae'r Brifysgol Agored yn cefnogi'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
SDG 4 ‘Ensure inclusive and equitable quality education and promote lifelong learning opportunities for all’
SDG 10 ‘Reduced inequalities’
SDG 16 ‘Promote peaceful and inclusive societies for sustainable development, provide access to justice for all and build effective, accountable and inclusive institutions at all levels’
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
adnabod rhai o'r heriau presennol yn y DU a/neu fyd-eang sydd o ddiddordeb i chi.
deall beth mae 'dinasyddiaeth weithgar' yn ei olygu.
deall sut i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol fel dinesydd gweithgar: sut i fod yn 'wneuthurwr newid'
deall gwaith sefydliadau gwleidyddol y DU a'r rôl sydd ganddynt o ran sicrhau newid, yn ogystal â ffyrdd eraill o sicrhau newid
nodi a gallu defnyddio rhai o'r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen i sicrhau newid mewn sefyllfaoedd go iawn.