4.1 Astudiaeth achos: meithrin diwylliant digidol iach
Mae’r dull a ddefnyddiwyd gan un o dimau cynhyrchu cyrsiau byr y Brifysgol Agored yn enghraifft o sut i feithrin diwylliant digidol iach. Waeth beth fo'i rôl, mae pob aelod yn dod â set sgiliau digidol gwahanol sydd yr un mor bwysig i gyflwyno'r cynnyrch. Mae lefel uchel o ymddiriedaeth, gofyn cwestiynau, dangos i eraill yn y tîm sut i fynd i'r afael â phob tasg ac ymddygiad rhagweithiol yn ffordd sylfaenol o weithio, er mwyn sicrhau y gellir datblygu cynhyrchion yn gyflym. Nid oes yna byth rhagdybiaeth bod rhywun yn gwybod sut i wneud rhywbeth neu feddylfryd o ‘nid fy ngwaith i ydy hynna’. Mae pawb yn hyblyg ac yn helpu pan fo angen.
Astudiaeth achos: meithrin diwylliant iach?
Mae'r tabl isod yn ddetholiad o ganllawiau cynhyrchu ar gyfer awduron cwrs nad ydynt yn aml wedi defnyddio'r platfform ar-lein yr ydym yn ei ddefnyddio. Mae'r ffocws i raddau helaeth ar y sgiliau sydd ganddynt eisoes i fagu hyder, gosod disgwyliadau a chreu amgylchedd diogel, agored i adeiladu ymddiriedaeth yn gyflym. Mae pobl yn cael eu hannog i ofyn am gymorth, tra’n gallu cael mynediad at y canllawiau a’r offer angenrheidiol. Y nod yw sicrhau, pan fydd gwaith yn dechrau ar y platfform ar-lein, bod pobl wedi datblygu'r gallu i ddeall sut i gyflwyno'r cwrs gorau posibl.
Dod i adnabod y platfform Cofrestrwch i wneud cwrs byr ac edrych o gwmpas i weld sut mae’r platfform yn gweithio. |
Ysgrifennu’n sgyrsiol Ysgrifennwch fel eich bod yn siarad yn uniongyrchol â rhywun yn hytrach na ysgrifennu papur academaidd neu werslyfr. |
Dweud straeon a mynd â’r dysgwr ar daith Beth yw’r prif beth rydych eisiau i’r dysgwr ddysgu a siarad amdano? |
Canolbwyntio ar sgiliau Ysgrifennwch eich cynnwys o gwmpas sgiliau fydd yn gwella cyflogadwyedd dysgwyr. |
Gofynnwch gwestiwn mawr ac yn gwybod pwy yw eich dysgwr Bydd hyn yn eich helpu i lunio’r cwrs i’r cyfeiriad cywir. |
Tynnu sylw at gynnwys trydydd parti’n gynnar Nodwch unrhyw gynnwys trydydd parti yr hoffech ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl. Peidiwch â chymryd yn ganiataol os yw’n rhan o gwrs y Brifysgol Agored y gallwn ei ddefnyddio heb ganiatâd. |
Cynlluniwch eich cyfryngau’n gynnar Cynlluniwch beth ydych eisiau ei ddefnyddio o ran fideos, sain, graffeg ac adnoddau rhyngweithiol er mwyn caniatáu amser i’w cynhyrchu. |
Amrywio cynnwys a mathau o gynnwys Defnyddiwch y gwahanol fathau o gamau a'r opsiynau cyfryngau i roi amrywiaeth i'r dysgwyr a chadw eu sylw. |
Meddyliwch yn fawr Rydym yn hoffi syniadau mawr, a lle bo’n bosib byddwn yn dod o hyd i ffordd i’w gwireddu. |
Gofynnwch am gymorth Mae’r tîm yma i’ch helpu chi, nid oes yna gwestiynau gwirion. |
Byddwch yn barod i glywed Na, ond byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod datrysiad. Nid oes gan y platfform yr un swyddogaeth neu ddull gweithredu â'n platfform ni. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi os ydym yn teimlo nad yw rhywbeth yn iawn, neu ddim yn bosib. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n dweud ‘Na’ lot, ond byddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd o’i chwmpas. Rydym hefyd yn llym iawn o ran nifer geiriau! Ein nod yw sicrhau eich bod yn mwynhau ac yn cyflwyno’r cwrs gorau posib. |