Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Cyflwyniad

Nod y cwrs hwn yw datblygu'r sgiliau trawsnewid digidol ar gyfer gweithio hybrid fel unigolyn neu dîm yn hytrach na chanolbwyntio ar sut mae galluoedd digidol yn berthnasol i sefydliadau. Er mwyn i sefydliadau adeiladu galluoedd digidol mae'n dechrau gyda'r hyder a'r cymhwysedd gan eu pobl i ddatblygu eu sgiliau a'u hymddygiad, fel y gallant wneud cyfraniad effeithiol i'r sefydliad.

Galluoedd digidol yw’r sgiliau, yr ymddygiad a’r ddealltwriaeth i’ch galluogi i ffynnu mewn byd digidol. Mae bron pob agwedd ar eich bywyd yn dibynnu ar dechnoleg ac mae angen y galluoedd digidol arnoch i ddefnyddio’r technolegau hyn yn briodol ac yn effeithiol, ar draws ystod o lwyfannau, amgylcheddau a sefyllfaoedd, yn eich bywyd personol ac yn y gweithle.

Wrth i drawsnewidiad digidol y gweithle barhau i gyflymu ac wrth i sefydliadau fabwysiadu arferion gweithio hybrid, mae cyflogwyr yn canolbwyntio ar y galluoedd digidol disgwyliedig y dylai gweithwyr eu cael. Mae cyfathrebu trwy e-bost ac ar lwyfannau cyfarfod ar-lein, creu dogfennau, cyflwyniadau a thaenlenni, deall rheoli ffeiliau a data, ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein yn rhai o'r sgiliau allweddol.

Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n canolbwyntio ar weithio hybrid – lle mae gweithwyr yn treulio rhywfaint o’u hamser yn gweithio o bell a rhywfaint yng ngweithle’r cyflogwr.