Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Datblygu eich hyder digidol a’ch chwilfrydedd

Mae SAU yn ôl eu natur yn annog dysgu parhaus a bod yn chwilfrydig. Maent yn tueddu i gael agweddau ffurfiol ac anffurfiol tuag at hyn, yn aml gyda chyfleoedd i ‘chwarae’.

Nid yw meithrin galluoedd digidol yn ymwneud yn unig â chyrsiau hyfforddi ffurfiol ar sut i ddefnyddio’r offer, ond mae hefyd yn cynnwys dysgu anffurfiol gan eraill, chwarae gydag offer digidol a bod yn gyfforddus â dysgu o fethiant. Mae datblygu diwylliant digidol yn gyntaf, lle mae arweinwyr sefydliadol yn arwain trwy esiampl, trwy ganolbwyntio ar bobl, cofleidio technoleg a chael gweledigaeth gyffredin sy’n cael ei chyfleu, yn annog hyder a chwilfrydedd digidol (Slack, [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] 2022).

Gweithgaredd 10 Pa mor hyderus yn ddigidol ydych chi?

Timing: 5 muned

Reflect on the questions below, and then place your vote in the poll.

Rwy'n hapus i roi cynnig ar bethau newydd.

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Byddaf yn canfod atebion.

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Does dim ots gen i ddim gwybod sut i wneud rhywbeth.

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gan ddibynnu ar ba mor gyfforddus ydych chi gydag amwysedd a’ch hyder eich hun, bydd datblygu eich galluoedd digidol (a thrawsnewid) naill ai’n gyfle i gael hwyl a gwthio terfynau’r hyn y gellir ei wneud neu gall fod yn ddryslyd ac yn frawychus. Gall unigolion poeni eu bod am dorri rhywbeth, gwneud rhywbeth o’i le, neu golli rhywbeth. Nid yw’r olaf yn debygol iawn y dyddiau hyn gan fod y rhan fwyaf o sefydliadau’n defnyddio gwasanaethau cwmwl. Cyn belled â'ch bod yn cadw'ch gwaith yn y lle cywir (er enghraifft, nid ar fwrdd gwaith eich cyfrifiadur) mae'r rhan fwyaf o bethau yn adferadwy a gallwch gael mynediad i fersiynau blaenorol fel arfer.

O bryd i’w gilydd mae pethau’n mynd o chwith ac nid oes posib eu datrys ac fel arfer nid eich bai chi yw hyn! Dyma fy ngliniadur a roddodd y gorau i weithio o ganlyniad i fethiant caledwedd cyfan. Fodd bynnag, ni chollais dim o fy ngwaith na ffeiliau gan ei fod i gyd ar y gweinyddwyr - yn y cwmwl - ac yn hygyrch pan wnes i fewngofnodi ar fy ngliniadur newydd.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 3 Ffotograff o liniadur wedi torri

Mae dysgu gan eraill yn rhan hanfodol o ddatblygu eich galluoedd digidol eich hun. Yn aml, gall rhywun eich helpu i ddefnyddio offeryn digidol, gan roi cipolwg i chi ar y ffordd rydych chi'n mynd i'r afael â thasg neu eich annog i wneud eich ymchwil eich hun i wella eich dealltwriaeth.

Os ydych chi'n ail-ddychmygu cynhyrchion, prosesau a systemau efallai nad oes gennych chi unrhyw syniad beth sy'n mynd i fod yn llwyddiannus a beth na fydd yn llwyddiannus. Bydd yn rhaid i chi ddysgu bod â'r hyder i ddatblygu meddylfryd a disgwyliadau'r rhanddeiliaid wrth fod yn gyfforddus â stopio neu addasu datblygiadau. Efallai bydd angen i chi dynnu ar y data sydd ar gael a chael mewnbwn gan arbenigwyr pwnc i wneud penderfyniadau.

Mae mwy o arweinwyr yn cymryd rhan mewn ‘mentora dwyochrog’ – sydd fel arfer yn cynnwys gweithiwr iau yn mentora rhywun uwch na nhw, ond gall y rhai yn yr un rolau hefyd elwa o’r dull hwn i ystyried gwahanol ddulliau o gyflawni tasgau digidol a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Mae’n bwysig cydnabod bod galluoedd a sgiliau unigolion yn mynd i amrywio. Er enghraifft, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pobl iau yn arbenigwyr ar ddefnyddio pob math o dechnoleg: efallai eu bod yn gymwys i ddefnyddio technoleg symudol, ond nid offer ar gyfer gwaith e.e., Microsoft Office 365 neu Google Drive, neu fod ganddynt y profiad ymddygiadol ar gyfer gweithio ar-lein yn y gweithle.

Meddu ar yr hyder i ofyn cwestiynau a rhannu eich profiadau eich hun o fewn eich tîm neu'r rhai sydd â sgiliau arbenigol, i greu cyfleoedd i feithrin cydweithrediad a hyder o fewn timau a'r sefydliad.

Wrth i chi ddod yn fwy galluog yn ddigidol a hyderus rhannwch eich gwybodaeth a chefnogi eraill. Dysgu i wrando a gweld beth sy’n digwydd mewn amgylcheddau digidol. Os ydych chi'n chwilfrydig a ddim yn ofni cyfaddef nad ydych chi'n gwybod sut i wneud rhywbeth, mae'r rhan fwyaf o bobl yn fwy na pharod i ddangos i chi. Mae hyn nid yn unig yn datblygu eich sgiliau ond yn meithrin diwylliant o rannu ac ymddiriedaeth gyda'r rhai rydych yn gweithio gyda nhw, ac yn annog y rhai a allai fod mewn rôl iau neu'n newydd i'r sefydliad i fod yn fwy hyderus wrth gyfrannu at drafodaethau.