Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Datblygu eich hyder

Cynlluniwyd Gweithgareddau 11 a 12 i’ch caniatáu i chwarae - nid oedd yna ffordd gywir nac anghywir o wneud y gweithgareddau.

Mae’r wefan Freerice yn ymgorffori chwarae, dysgu a chynaliadwyedd. Cynlluniwyd y safle i fod yn hawdd iawn i’w ddefnyddio, gymaint felly nad ydynt wedi darparu unrhyw ganllawiau ar sut i’w ddefnyddio. Os gwnaethoch gymryd yr amser i archwilio'r ddewislen, byddwch wedi gweld y gallech newid y lefel anhawster, gweld gwybodaeth am heriau a dewis gwahanol fathau o gwestiynau.

Roedd y gêm a chwaraeais i yn ymwneud ag ystyr geiriau: datblygodd hyn ynddo’i hun fy sgiliau ar ddefnyddio geiriau gwahanol i ddisgrifio rhywbeth, pe bawn i eisiau cymryd cam ymhellach, gallwn herio fy hun i ddefnyddio’r ystyr amgen y tro nesaf yr oeddwn yn cyfathrebu rhywbeth sy’n gysylltiedig ag ef.

Ffactor ysgogol i annog ymgysylltiad â’r gêm yw ei bod yn cefnogi’r United Nations World Food Programme (WFP) a’r United Nations Sustainable Development Goals (UN SDG) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a gallai cymryd rhan yn y diben ehangach hwn helpu i roi hwb i’ch llesiant chi.

Os gwnaethoch gofrestru i gael cyfrif gallwch greu grŵp a gwahodd aelodau o’ch tîm neu sefydliad i ymuno. Neu gallwch ymuno â’r grŵp Sgiliau Digidol, a defnyddio’r offeryn hwn fel rhan o’ch pecyn cymorth lles, i gael seibiant, wrth barhau i gyfrannu at yr UN SDG.

I wneud hyn, ar ôl i chi gofrestru, ewch i’r ddewislen, dewiswch grwpiau ac yna teipiwch y cod canlynol i ymuno â grŵp sydd eisoes yn bodoli: R5V4ABYR

Freerice is an educational trivia game that helps you get smarter while making a difference for people around the world. Every question you answer correctly raises 10 grains of rice for the World Food Programme (WFP) to support its work saving and changing lives around the world.

Ffynhonnell:: United Nations World Food Programme (dim dyddiad)

Gallai dynnu llun o berson fod wedi bod yn fwy heriol, gan fod yn rhaid i chi benderfynu pa declyn i’w ddefnyddio, ac efallai ei bod yn dasg anghyfarwydd i’w chwblhau, hyd yn oed os ydych yn defnyddio’r teclyn ‘prosesu geiriau’, efallai nad yw tynnu llun rhywbeth ynddo yn allu digidol eich bod wedi bod angen ei ddatblygu. Gall mewnosod siapiau a blychau testun fod yn ddefnyddiol os ydych am ychwanegu cynrychiolaeth weledol o wybodaeth a data, felly mae hwn yn allu digidol sy'n werth ei ddatblygu.

Rhoddodd gweithgareddau 11 a 12 gyfle i chi chwarae, profi eich hyder ac efallai dysgu sgil digidol newydd. Rhoi cynnig ar bethau yn aml yw’r ffordd orau o ddeall sut rydych chi’n dysgu a datblygu’r gallu i chwilio am gymorth a chefnogaeth, i’ch galluogi i ddod o hyd i atebion yn fwy effeithlon, pan efallai na fyddwch yn gallu estyn allan at eraill am gymorth.