Casgliad
Mae datblygu eich sgiliau, galluoedd ac ymddygiad digidol, fel unigolyn a’r rheiny o fewn eich sefydliad yn broses barhaus wrth i dechnoleg a ffyrdd o weithio ddatblygu. Mae ein dibyniaeth ar dechnoleg yn hanfodol i fyw a gweithio.
Wrth i’ch hyder a gallu dyfu byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a defnyddio technoleg yn gyfrifol a chynaliadwy er eich budd chi wrth sicrhau y gellir diwallu anghenion eich sefydliad, eich myfyrwyr a’r gymuned ehangach mewn byd digidol
Digidol yng Nghymru: cyfle
Ar ddechrau’r cwrs hwn gwnaethom ofyn i chi ddarllen Taith tuag at Gymru lewyrchus [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] – Adran 5: Sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Ystyrir Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf datblygedig yn y byd am ei hagwedd arloesol at gynaliadwyedd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae ei strategaeth ddigidol yn nodi’n glir yr hyn sydd ei angen i ddatblygu’r sgiliau a’r seilwaith ar gyfer y dyfodol.
Wrth dynnu ar y nodiadau rydych wedi’u gwneud yn ystod y cwrs, ac adolygu’r Strategaeth ddigidol i Gymru, beth ydych chi’n meddwl y mae angen i SAUau ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol i ddatblygu galluoedd digidol ac i sicrhau bod eu trawsnewid digidol yn diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol?
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid yng Nghymru, efallai yr hoffech ei archwilio ymhellach.