3 Sgiliau digidol bob dydd
Meddyliwch am y sgiliau digidol rydych chi'n eu defnyddio mewn bywyd bob dydd o'r adeg y byddwch chi'n codi i'r amser rydych chi'n mynd i'r gwely, y tu allan i'ch amgylchedd gwaith a'r gefnogaeth a gawsoch i ddefnyddio'r dechnoleg dan sylw.
Mae'n debygol eich bod wedi gweithio allan sut i ddefnyddio darn o dechnoleg neu feddalwedd eich hun neu wedi gofyn i bartner/ffrind/plentyn ddweud wrthych sut i wneud rhywbeth. Meddyliwch am eich bywyd digidol, beth ydych chi'n ymgysylltu'n weithredol ag ef yn ddigidol oherwydd ei fod o fudd i chi?
Gweithgaredd 8 Pa weithgareddau yn eich bywyd digidol sy’n dibynnu ar dechnoleg?
Lluniwch fap meddwl o'ch bywyd digidol: rhowch dechnoleg yn y canol, yna amgylchynwch ef ag enghreifftiau o'r ffyrdd rydych chi'n defnyddio technoleg mewn bywyd bob dydd. Pa sgiliau digidol ydych chi eu hangen mewn perthynas â’r rhain? Er enghraifft, archebu siopa ar-lein, defnyddio’r sat nav yn eich car neu osod ffôn clyfar newydd yn barod i’w ddefnyddio. Rhestrwch eich syniadau yn y blwch isod.
Ateb
Mae’r ddelwedd isod yn dangos dim ond rhai o’r ffyrdd y mae technoleg yn cael ei ddefnyddio ym mron bob agwedd ar ein bywydau.
Gweithgaredd 9 Deall sgiliau ar gyfer y gweithle
Edrychwch ar yr erthyglau isod a meddyliwch am sut rydych chi'n defnyddio'r technolegau hyn a'r sgiliau digidol sydd gennych chi mewn perthynas â nhw. Wrth i chi wneud hynny, ystyriwch eich agwedd tuag at ddiogelwch ar-lein a llesiant digidol personol.
Pa rai o’r sgiliau hyn rydych yn eu defnyddio yn y gweithle hefyd?
Pam ydych yn eu defnyddio nhw?
Sut mae hyn yn amrywio yn y gweithle a’ch bywyd personol?
Rhestrwch eich atebion yn y blwch isod.
Top 11 Essential Uses of Technology in Everyday Life (javaassignmenthelp.com) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
The 7 Main Ways Technology Impacts Your Daily Life – Tech.co
20 internet safety tips and checklist to help families stay safer online | Norton
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â diogelwch ar-lein, a llesiant digidol personol yn ddiweddarach, ond mae’n ddefnyddiol i ddechrau meddwl am hyn wrth i chi weithio trwy bob adran.