Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.6 Rheoli data, gwybodaeth a gwybodaeth ddigidol

Yn ogystal â diogelwch ein systemau, mae angen i ni hefyd feddwl am ddiogelwch y wybodaeth sydd gennym, sut rydym yn ei diogelu a sut rydym yn ei rhannu.

Mae’n bwysig deall nad yw data a gwybodaeth wedi’u cyfyngu i ddogfennau’n unig, ond yn hytrach mae’n gynnwys sy’n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw system, ased neu gyfathrebiad sy’n bodoli’n ddigidol neu’n ffisegol.

Mae gwybodaeth fel arfer yn cael ei grwpio i’r categorïau canlynol: ddim yn gyfrinachol, mewnol, cyfrinachol. Dylech ddeall eich cyfrifoldebau o ran sut rydych yn trin gwybodaeth a data o fewn y meysydd hyn, sy'n rhan o'r Information Classification Software for ISO 27001 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Tabl 9
Ddim yn gyfrinachol Mewnol yn unig Cyfrinachol
Nid yw'r wybodaeth yn arbennig o werthfawr, ac nid oes angen i’r sefydliad ei diogelu. Gellir ei chyrchu gan unrhyw un ar gyfer unrhyw ddiben, yn cynnwys ei rhyddhau i’r cyhoedd neu gleientiaid. Gall gynnwys datganiadau i’r wasg, swyddi gwag ac ati. Mae gan y wybodaeth werth yn fewnol a gallai fod o rywfaint o werth i gystadleuwyr. Gellir ei rhannu ag unrhyw un yn y sefydliad. Gallai gynnwys memoranda mewnol, data cyflogaeth, gwybodaeth am gontractau, ac ati. Mae gan y wybodaeth werth sylweddol ac efallai y bydd gofynion cyfreithiol ar gyfer ei diogelu. Mae mynediad wedi’i gyfyngu i rolau neu lefelau penodol o fewn y sefydliad. Gallai gynnwys eiddo deallusol, manylion talu cwsmeriaid, cynllunio strategol hir dymor ac ati.
Ffynhonnell: IT Governance (dim dyddiad)

Mae gan wybodaeth felly werth ac mae’n hanfodol eich bod yn deall rheoli gwybodaeth ddigidol. Rheoli gwybodaeth ddigidol yw’r broses ar gyfer nodi, casglu, trefnu, storio a rhannu gwybodaeth ddigidol yn effeithiol fel ei bod ar gael yn hwylus i bawb sydd angen mynediad iddi. Mae hefyd angen y metadata cywir (data am y data) i alluogi offer cyfrifiadurol awtomataidd i gael mynediad - neu chwilio drwy’r - asedau.

Yn y fideo mae Nicola Askham, hyfforddwr llywodraethu data, yn esbonio beth a olygir wrth reoli data, a'r ystyriaethau ar gyfer rheoli data.

Download this video clip.Video player: hyb_5_2022_sept111_managing_data_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).