5 Deall eich cyfrifoldebau
Wrth weithio’n ddigidol mae angen i chi ddeall eich cyfrifoldebau a’ch ymddygiad yn unol â gofynion a disgwyliadau eich sefydliad. Fel y gwelsoch o'r rhestr yn gynharach yn y cwrs hwn mae wedi dod yn bwysicach cael y ddealltwriaeth hon wrth weithio’n hybrid. Mae sefydliadau bellach yn fwy dibynnol ar ymddiried yn y rhai sy'n gweithio o bell i barchu eu gofynion ac i gael y gallu, yr offer a'r amgylchedd i wneud hynny.
Bydd gan y rhan fwyaf o SAUau ganllawiau a pholisïau i sicrhau bod eu staff yn deall y gofynion ar gyfer diogelwch, llywodraethu digidol, hygyrchedd, cynhwysiant ac eiddo deallusol. Fodd bynnag, mae gweithio’n gyfrifol yn fwy pellgyrhaeddol.
Yn dibynnu ar eich rôl, a'r cynhyrchion a'r gwasanaethau y gallwch eu darparu, yn aml mae yna gyfres o ganllawiau ffurfiol ac anffurfiol y mae angen i chi eu hystyried hefyd. Gall y rhain amrywio o ganllawiau brand sefydliadol, y defnydd o systemau ac offer, ac yn bwysig iawn, eich ymddygiad digidol, o ran sut rydych chi'n rheoli'ch dyfeisiau a sut rydych chi'n cyfathrebu ag eraill.