5.2 Llywodraethu digidol a diogelwch gwybodaeth
Mae gan rhai sefydliadau adrannau ar wahân sy’n arwain ar lywodraethu digidol a gweithgarwch diogelwch gwybodaeth. Mae’r adrannau hyn fel arfer yn sicrhau bod cyfrifoldebau cyfreithiol, safonau proffesiynol a mewnol, prosesau a strategaethau yn eu lle. Mae hyn yn galluogi sefydliadau ac unigolion i ddatblygu’r ymddygiadau sy’n sicrhau dull cyson o weithredu mewn amgylchedd digidol.
Mae llywodraethu digidol a diogelwch gwybodaeth yn gallu cynnwys meysydd megis:
- GDPR (y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data / General Data Protection Regulations)
- diogelwch gwybodaeth
- rheoli data, gwybodaeth a gwybodaeth ddigidol
- eiddo deallusol a hawlfraint
- hygyrchedd a chynhwysiant
- brandiau digidol
- cyfathrebu a chynnwys.
Mae llawer o sefydliadau yn defnyddio fframwaith rhyngwladol DAMA (Data Management Association) fel dull o lywodraethu data a deall yr hyn sydd angen ei ystyried.
Yn y fideo isod, mae Nicola Askham, hyfforddwr llywodraethu data, yn esbonio'r fframwaith a'r ystyriaethau ar gyfer llywodraethu data da.
Transcript
Gweithgaredd 15 Meddyliwch am yr hyn a ddylai fod yn rhan o fframwaith llywodraethu digidol
Nid yw'r cwrs hwn yn ymdrin yn fanwl â'ch holl gyfrifoldebau, gan y bydd y rhain yn amrywio o sefydliad i sefydliad: rydym yn argymell eich bod yn treulio rhywfaint o amser yn ystyried pa bolisïau, prosesau a hyfforddiant cydymffurfio y mae'n ofynnol i chi eu gwneud yn eich SAU neu weithle.
Nid oes gan bob sefydliad fframwaith llywodraethu digidol manwl yn ei le. Efallai bod ganddynt fframweithiau ac elfennau strategol o ‘weithgaredd digidol’. Mae fframwaith llywodraethu digidol yn wahanol i fframwaith llywodraethu data sy'n canolbwyntio ar reoli data.
Gwyliwch y fideo am ‘The OCED Digital Government Policy Framework’ sy’n rhoi mewnwelediad i’r hyn yr hoffech chi fel sefydliad ei ystyried i gefnogi datblygiad fframwaith llywodraethu digidol.
OECD Digital Government Policy Framework [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Efallai yr hoffech wneud rhywfaint o nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.