1.1 Sgiliau gweithredol hanfodol
Mae Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol (Essential Digital Skills Framework) y Deyrnas Unedig (Gov.uk, 2018) yn amlinellu’r sgiliau hanfodol a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar bob oedolyn i ryngweithio mewn byd digidol. Mae pum categori:
- cyfathrebu
- trin gwybodaeth a chynnwys
- trafod (transacting)
- datrys problemau
- bod yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar-lein.
Mae Ffigwr 1 yn dangos perthynas y categorïau hyn â’i gilydd.
Mae Tabl 1 yn torri’r categorïau i lawr ymhellach ac yn rhoi diffiniadau mwy manwl.
Bod yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein ac all-lein |
Llesiant digidol, cyfrifoldebau wrth weithio ar-lein – diogelwch, preifatrwydd a diogelu data, hygyrchedd, deall prosesau a pholisïau, ymddygiad, ac ystyriaethau nad ydynt yn ddigidol – e.e. gosod eich desg, peidio ag ysgrifennu eich cyfrinair. |
Defnyddio dyfeisiau a thrin gwybodaeth |
Deall caledwedd, meddalwedd, systemau gweithredu a chymwysiadau, a sut i reoli a storio gwybodaeth ac asedau digidol. |
Cyfathrebu |
Sut i gyfathrebu’n effeithiol yn ddigidol yn dibynnu ar yr ‘offer’ a’r ‘cyd-destun’. |
Creu a golygu |
Datblygu’r sgiliau i greu a golygu trwy ddefnyddio offer digidol, a myfyrio ar arfer gorau a chanllawiau ar gyfer creu cynnwys a chynhyrchion digidol. |
Trafod (Transacting) |
Y gallu i ryngweithio â ffurflenni, systemau a thaliadau digidol. |
Datrys problemau | Y gallu i ddod o hyd i ddatrysiadau a dulliau a defnyddio offer digidol i gynorthwyo â hyn |
Mae Tabl 2 yn rhoi enghreifftiau o sgiliau a galluoedd digidol y mae eu hangen yn y gweithle:
Sgiliau sylfaenol hanfodol y mae pob unigolyn eu hangen | Sgiliau uwch/arbenigol |
---|---|
|
|
Gweithgaredd 3 Pa mor hyderus yn ddigidol ydych chi?
Darllenwch y disgrifiadau o’r sgiliau a’r enghreifftiau yn y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol, sydd ar gael naill ai ar:
Wefan Essential Digital Skills Framework [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (yn cael ei argymell os ydych yn defnyddio rhaglen darllen sgrin).
Essential Digital Skills Framework PDF rhyngweithiol.
Yna defnyddiwch y polau isod i ystyried pa mor hyderus yn ddigidol ydych chi.
Sgiliau digidol sylfaenol
Cyfathrebu
Trin gwybodaeth a chynnwys
Trafod (Transacting)
Datrys problemau
Bod yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar-lein
Gadael sylw
I rai sydd yn y gweithle, mae’n bosib y bydd y rhan fwyaf o’r sgiliau a roddir yma yn gyfarwydd. Maent yn deillio o ddogfen Essential Digital Skills Framework Llywodraeth y Deyrnas Unedig y mae’r gweithgaredd hwn wedi’i seilio arni.
Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo am y sgiliau digidol sylfaenol a ddisgrifir yn y ddogfen? Os oes yna feysydd yr hoffech eu datblygu, mae HM Government Skills Toolkit yn darparu adnoddau i’ch helpu i ddatblygu sgiliau penodol. Mae’r pecyn yn cynnwys Learn My Way, pecyn o adnoddau sy’n darparu hyfforddiant sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol.