4.2 Pa mor chwilfrydig yn ddigidol ydych chi?
Mae’r gweithgareddau canlynol yn rhoi cyfle i chi fod yn chwilfrydig gydag amrywiaeth o offer ac i feddwl am sut rydych chi’n ymdrin â thasgau digidol. Nid oes unrhyw gyfarwyddiadau manwl, mae hynny’n fwriadol.
Gweithgaredd 11 Archwilio Freerice
Yr unig gyfarwyddyd ar gyfer y gweithgaredd hwn yw mynd i safle Freerice a’i archwilio. Nid oes angen i chi greu cyfrif, oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny
Freerice [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Gweithgaredd 12 Tynnu llun o berson
Agorwch ddogfen prosesu geiriau (e.e., Microsoft Word, Google Docs, Apple Pages), tynnwch lun o berson a chadwch y ddogfen.
Gweithgaredd 13 Sut oeddech chi'n teimlo?
Sut oeddech chi'n teimlo?
- Do’n i ddim yn siŵr sut i wneud hyn, a wnes i mo’i wneud
- Do’n i ddim yn siŵr sut i wneud hyn, felly gwnes i chwilio/gofyn am help
- Do’n i ddim yn siŵr beth roedd angen i mi ei wneud, ond gwnes i chwarae nes i mi weithio hynny allan
- Iawn, gwnes i weithio allan beth roedd angen i mi ei wneud
- Iawn, ro’n i’n gwybod beth roedd angen i mi ei wneud
Cofnodwch eich meddyliau ynglŷn â gwneud y gweithgareddau hyn a gwnewch nodiadau yn y blwch isod.
Trafodaeth
Efallai eich bod wedi bod yn amheus iawn o wneud y gweithgareddau hyn heb fawr o gyfarwyddiadau, a hyd yn oed yn anghyfforddus. Neu efallai eich bod yn barod iawn i archwilio. Pa gymorth oedd ei angen arnoch chi? A wnaethoch chi edrych am arweiniad eich hun? Mae gan bob un ohonom lefelau gwahanol o chwilfrydedd a hyder wrth wynebu tasgau digidol – darllenwch fwy am ein hymatebion, yn yr adran nesaf.