Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Rheoli gwybodaeth ddigidol

Mae Rheoli Gwybodaeth Ddigidol (Digital Knowledge Management / DKM) yn allu digidol allweddol, sydd wedi'i integreiddio drwy fframwaith Galluoedd Digidol Jisc. DKM yw’r broses o nodi, casglu, dogfennu, trefnu a storio gwybodaeth ddigidol fel bod pawb, gan gynnwys systemau cyfrifiadurol awtomataidd, yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth a chael mynediad ati yn rhwydd. Yn gynyddol, mae’n ymdrin â sut mae’r offer a’r systemau digidol yn eich sefydliad wedi’u cysylltu ac yn ‘siarad’ â’i gilydd, a sut y cânt eu defnyddio.

Ar lefel sefydliadol bydd arbenigwyr yn deall ac yn dylunio llifoedd gwaith, yn datblygu technoleg ac yn cynhyrchu polisïau a chanllawiau i gefnogi pawb. Fodd bynnag, mae angen i bawb mewn sefydliad feddu ar ddealltwriaeth o'r ymddygiad sydd ei angen i reoli gwybodaeth yn effeithiol.

Ar lefel sylfaenol mae hyn yn cynnwys:

  • cadw ffeiliau yn y lleoliad cywir
  • peidio â chadw ffeiliau ar eich gyriannau caled eich hun
  • gwneud copïau wrth gefn o ffeiliau’n rheolaidd
  • peidio â gwneud copïau o ffeiliau a’u cadw nhw mewn mwy nag un lle
  • ychwanegu enwau ffeiliau a metadata cywir.

Mae’n siŵr mai rheoli eich byd digidol yn effeithiol yw’r gallu digidol mwyaf defnyddiol y gallwch ei ddysgu. Mae cyflymu offer cydweithio a chymwysiadau a systemau ‘dysgu peirianyddol’ yn gofyn am reoli gwybodaeth ddigidol yn well, fel y gall sefydliadau ac unigolion ffynnu mewn byd digidol.

Gweithgaredd 19 Sut ydych chi'n rheoli asedau cyfryngau digidol?

Timing: 20 muned

Mae nifer o SAUau yn dechrau creu mwy o asedau cyfryngau digidol megis ffeiliau sain a fideos. Wrth i chi wylio’r fideo isod, lle mae Jonathan Morgan, Prif Swyddog Gweithredol Object Matrix Ltd, yn rhannu sut mae Object Matrix yn rheoli asedau data a chyfryngau digidol, a’u diogelwch a’u llywodraethu, ystyriwch sut mae eich sefydliad yn rheoli asedau cyfryngau digidol.

Download this video clip.Video player: hyb_5_2022_sept112_digital_security_responsibilities_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yna treuliwch ychydig o amser yn ymgyfarwyddo â pholisïau a chanllawiau rheoli data eich sefydliad chi.

Efallai yr hoffech wneud nodiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).