1 Pam fod sgiliau digidol yn bwysig?
Essential digital skills are a step towards learning lots of other new things. They can improve your confidence to use technology for work, learning and daily life.
Many jobs today require digital skills. You need them even for jobs that do not ask for high levels of qualifications or experience. For example, if you work in a warehouse or a shop you may need to keep digital records of stock.
You also need digital skills every day for shopping, banking, learning, and keeping in touch with family and friends.
Gweithgaredd 1 Pam fod sgiliau digidol yn bwysig?
Gwyliwch y fideo lle mae cyfranwyr yn rhannu pam fod sgiliau a galluoedd digidol yn bwysig, effaith y prinder sgiliau digidol a’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar sefydliadau.
Transcript
Nawr ystyriwch y canlynol ac ychwanegwch eich barn yn y blwch isod:
- Beth oedd y sgiliau a amlygwyd ganddynt fel y rhai pwysicaf?
- Sut mae’r byd digidol wedi datblygu?
- Pa sgiliau ydych chi'n teimlo sydd angen eu datblygu gan eich sefydliad a chi'ch hun?
Mae sgiliau digidol ar gyfer y dyfodol yn hanfodol nid yn unig i sicrhau bod sefydliadau’n ffynnu, ond hefyd er mwyn i gymunedau a chenhedloedd amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol. Mae nod llesiant Cymru Lewyrchus,Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , yn canolbwyntio’n benodol ar y sgiliau ar gyfer y dyfodol: ‘Annog sefydliadau i ddatblygu poblogaeth fedrus, addas ar gyfer newidiadau technolegol y dyfodol’.
Gweithgaredd 2 Sgiliau ar gyfer y dyfodol
Darllenwch Adran 5 o Taith tuag at Gymru lewyrchus ac yna gwyliwch y fideo isod, lle mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn esbonio’r sgiliau fydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Transcript
Sut allai eich sefydliad gyfrannu at gynyddu sgiliau digidol y rhai sy’n rhan ohono ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Ychwanegwch eich barn yn y blwch isod.