Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Y gagendor digidol a chynhwysiant

gagendor digidol yw’r bwlch rhwng pobl mewn cymdeithas sydd â mynediad lawn at dechnolegau digidol (megis y rhyngrwyd a chyfrifiaduron) a’r rhai sydd ddim (Llywodraeth y DU [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 2020).

Tynnodd y pandemig sylw at y mater o’r gagendor digidol. Yn ystod y cyfnodau o ddysgu plant gartref roedd yna adroddiadau rheolaidd yn y cyfryngau am blant heb fynediad at dechnoleg i allu ymuno â gwersi o bell. Roedd yna hefyd lawer o bobl oedd ddim yn gallu siopa ar-lein oherwydd diffyg mynediad at dechnoleg, galluoedd digidol neu seilwaith gwael - yn aml, diffyg mynediad at y rhyngrwyd.

A lack of digital skills and access can have a huge negative impact on a person’s life, leading to poorer health outcomes and a lower life expectancy, increased loneliness and social isolation, less access to jobs and education.

It can mean paying more for essentials, financial exclusion, an increased risk of experiencing poverty. People who are digitally excluded also lack a voice and visibility in the modern world, as government services and democracy increasingly move online.

What’s more, it’s those already at a disadvantage – through age, education, income, disability, or unemployment – who are most likely to be missing out, further widening the social inequality gap.

Mae adroddiad Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol (llyw.cymru, 2020) yn nodi bod:

  • 60,000 o ddefnyddwyr rhyngrwyd personol (16 oed neu hŷn) ddim yn gallu arddangos y sgil o ddefnyddio peiriant chwilio
  • 730,000 o ddefnyddwyr rhyngrwyd personol ddim yn gallu dangos y sgiliau o reoli gosodiadau preifatrwydd
  • 19% o bobl anabl ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bersonol ac felly ystyrir eu bod wedi’u hallgau’n ddigidol
  • gan 76% o denantiaid tai cymdeithasol fynediad i’r rhyngrwyd o’i gymharu â 90% o berchen-feddianwyr.

Mae’r ffeithlun Cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol yng Nghymru: 2019 i 2020, sy’n crynhoi strategaeth Rhagolwg cynhwysiant digidol: tuag at Gymru ddigidol hyderus yn dangos graddfa’r gagendor digidol yng Nghymru. Er efallai bod rhai o’r niferoedd i weld yn isel, mae’r rhai sydd yn y gagendor digidol yn cynnwys y bobl fwyaf agored i niwed sydd wedi eu cau allan o gynhwysiant sylfaenol mewn cymdeithas neu sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r seilwaith digidol yn gyfyngedig iawn.

Yn y fideo isod, mae cyfranwyr yn rhannu eu barn am gynhwysiant digidol a sut i gau’r gagendor digidol.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sept126_digital_inclusion_and_the_digital_divide_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 5 Ymchwilio i’r gagendor digidol a chynhwysiant

Timing: 20 muned

Mae ennill dealltwriaeth o’r gagendor digidol a ffyrdd o gau’r gagendor o fewn eich sefydliad a’r gymuned leol yn hanfodol. Mae hwn yn faes y gellir ei anghofio amdano wrth feddwl am gynhwysiant, gan fod yna rhagdybiaeth os ydych yn gweithio bod gennych eisoes y sgiliau hanfodol a mynediad at seilwaith. Gan fod mwy o bobl yn gweithio mewn dull hybrid, gallai gofynion ar gyfer cynhwysiant digidol rhai sy’n gweithio o bell gael eu hanwybyddu.

Myfyriwch ar y fideo uchod. Yna gwnewch eich ymchwil eich hun ar y gagendor digidol a chynhwysiant a meddyliwch am y cwestiynau canlynol.

  • A ydych yn gyfarwydd â’r heriau sy’n cael eu codi mewn perthynas â’ch amgylchiadau personol eich hun?
  • Beth ydych yn teimlo y dylai sefydliadau ganolbwyntio arnynt, a sut y gallent wneud hyn?

Efallai yr hoffech ddefnyddio rhai o'r adnoddau isod i helpu gyda’ch ymchwil.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).