2.1 Fframwaith ar gyfer adeiladu galluoedd digidol
Mae nifer o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach wedi mabwysiadau fframwaith galluoedd digidol Jisc (Jisc digital capabilities framework), sy’n nodi’r sgiliau digidol hanfodol y dylai pob oedolyn feddu arnynt yng nghyd-destun y gweithle. Yn ogystal, mae’n cynnig ffordd i fynegi a deall galluoedd digidol mewn lleoliad AU/AB. Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar:
- Ar lefel unigol rydym yn diffinio galluoedd digidol fel y rhai sy’n galluogi rhywun i fyw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol.
- Ar lefel sefydliad mae angen i ni edrych y tu hwnt i alluoedd unigolion ac ystyried i ba raddau mae diwylliant a seilwaith sefydliad yn galluogi ac yn ysgogi arferion digidol..
Mae’r fframwaith yn diffinio’r rhain fel a ganlyn.
Chwe elfen y fframwaith galluoedd digidol unigol yw: | Chwe elfen y fframwaith galluoedd digidol sefydliadol yw: |
---|---|
|
|
Yn y fideo isod, mae Dr Becki Vickerstaff, Uwch Ymgynghorydd Addysg Uwch yn Jisc, yn egluro fframwaith galluoedd digidol Jisc.
Transcript
Wrth feddwl am y fframwaith galluoedd digidol, mae’n bwysig diffinio’r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn deall y sgiliau digidol a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol gyd-destunau o fewn eich SAU – nid yw un ateb yn addas i bawb!
- Pobl: Y grŵp o bobl sydd angen y sgiliau
- Lleoedd: Y cyd-destun y mae angen iddynt ddefnyddio’r sgiliau
- Technoleg: Yr offer a’r systemau y maent angen y sgiliau i’w defnyddio
- Cyfnod: Y ffrâm amser y mae’r sgiliau hyn yn berthnasol ynddi (Orlik [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 2018).
Gweithgaredd 6 Fframwaith Jisc: Pa mor hyderus yn ddigidol ydych chi?
Ymchwiliwch i’r fframwaith galluoedd digidol Jisc yn fwy manwl. Ystyriwch yr hyn mae’n ei olygu i chi fel unigolyn, a pha mor hyderus a alluog yn ddigidol ydych chi’n teimlo.
Jisc Digital Capabilities Framework
Efallai yr hoffech ddefnyddio un o’r adnoddau canlynol i’ch helpu i asesu eich gallu digidol eich hun:
- Os yw eich SAU yn aelod o Jisc efallai y bydd gennych fynediad at y Jisc Discovery Tool sef adnodd hunanasesu i’ch helpu i ddeall a datblygu eich galluoedd digidol.
- Os nad yw eich sefydliad yn aelod efallai yr hoffech ddefnyddio The Digital Competence Wheel.
Ysgrifennwch grynodeb o ba mor hyderus a galluog ydych chi’n ddigidol a nodi’r meysydd yr hoffech eu datblygu. Meddyliwch am ba sgiliau ac ymddygiad digidol sy’n bwysig yn eich bywyd personol ac yn eich rôl o fewn sefydliad. Os ydych yn gweithio mewn SAU ystyriwch hefyd pa sgiliau ac adnoddau digidol rydych chi’n eu defnyddio, er mwyn gweithredu’n effeithiol fel sefydliad, a’r sgiliau i sicrhau’r canlyniadau gorau i’ch myfyrwyr.
Gadael sylw
O fewn y Brifysgol Agored mae’r dulliau canlynol wedi’u cymryd i osod galluoedd digidol Jisc yng nghyd-destun y Brifysgol Agored. Mae arbenigwyr pwnc o ar draws y Brifysgol Agored wedi cydweithio i ddatblygu dull i ddatblygu a chefnogi galluoedd digidol, trwy ganllawiau, hyfforddiant, cefnogaeth a phrosesau.
Gallu | Mae hyn yn golygu ein bod yn... |
---|---|
Defnyddio technoleg (Hyfedredd TGCh) |
|
Cyfathrebu, cydweithio a chyfranogiad digidol |
|
Creu digidol, datrys problemau ac arloesi |
|
Gwybodaeth, data a llythrennedd cyfryngau |
|
Dysgu ac addysgu digidol (dysgu a datblygu digidol) |
|
Hunaniaeth ddigidol, llesiant a chynaliadwyedd |
|
Sylwch: Mae’r Brifysgol Agored wedi cynnwys cynaliadwyedd digidol fel gallu ychwanegol, sydd ddim yn rhan o’r fframwaith Jisc.
Defnyddio’r fframwaith Jisc
Yn y fideo isod, mae Becki Vickerstaff yn crynhoi beth yw'r fframwaith, yna mae cyfranwyr yn trafod sut mae wedi cael ei ddefnyddio yn eu sefydliadau hyd yn hyn a meysydd i'w hystyried ar gyfer y dyfodol.
Transcript
Mae llawer o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn gweithio gyda Jisc a sefydliadau eraill i ddatblygu adnoddau er mwyn helpu i gryfhau galluoedd digidol. Yn y fideo isod, mae Becki Vickerstaff yn egluro sut mae fframwaith Jisc wedi’i ddefnyddio i greu ardaloedd adnoddau digidol er mwyn helpu i gryfhau galluoedd digidol staff a myfyrwyr.
Transcript
Gweithgaredd 7 Archwilio’r CanolfanDigidol
Cydweithiodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Jisc i greu’r CanolfanDigidol, eu siop un stop ar gyfer anghenion sgiliau digidol..
Yn y fideo isod mae Sarah Jones, Pennaeth Gwasanaeth Academaidd, Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn trafod sut y gellir defnyddio’r adnodd hwn a meysydd i'w hystyried.
Transcript
Rhowch rywfaint o amser i archwilio’r CanolfanDigidol. Efallai yr hoffech chi ddarllen astudiaeth achos Jisc am y prosiect hwn hefyd: University of Wales Trinity St David, Building digital capability (jisc.ac.uk).
Ystyried sut y gallech fynd ati i ddatblygu adnoddau i wella galluoedd digidol yn eich sefydliad chi.