6 Dyfodol digidol: trawsnewid digidol
Cyflymodd trawsnewid digidol yn ystod y pandemig::
According to a new McKinsey Global Survey of executives, their companies have accelerated the digitization of their customer and supply-chain interactions and of their internal operations by three to four years. And the share of digital or digitally enabled products in their portfolios has accelerated by a shocking seven years
Trawsnewid digidol yw sut mae sefydliadau’n gweithredu modelau busnes sy’n ystyried ac yn ysgogi datblygiad technoleg. Y nod yw gwella gallu ei bobl a datblygu prosesau i sicrhau ei fod yn gallu llwyddo yn y dyfodol.
Mae'r cyflymiad hwn wedi gweld cwmnïau'n cyflwyno atebion dros dro sydd bellach wedi'u gwreiddio ac yn datblygu i ddiwallu'r angen am ffyrdd newydd o weithio. Ar gyfer sefydliadau ac unigolion bydd hyn yn gofyn am y gwytnwch i barhau i weithio gydag ansicrwydd a dysgu sgiliau newydd wrth i dechnoleg newydd gael ei mabwysiadu.
Mae rhai o’r themâu allweddol y mae sefydliadau’n eu hystyried ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:
- awtomeiddio prosesau busnes - dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial (AI)
- cyfrifiadura cwmwl
- defnyddio data i ysgogi gwneud penderfyniadau
- denu talent gyda’r galluoedd digidol cywir
- dull dim ymddiriedaeth at ddiogelwch
- sut fydd y ‘metaverse’ yn datblygu
- cynaliadwyedd - cyrraedd sero net ac olion traed carbon.
Yn y fideo mae cyfranwyr yn esbonio beth sydd angen i sefydliadau ei ystyried ar gyfer trawsnewid digidol a’r galluoedd digidol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol:
Transcript
Rydym yn clywed y term ‘4ydd chwyldro diwydiannol’ yn aml. Yn y fideo canlynol, mae Jessica Leigh Jones MBE, Prif Swyddog Gweithredol IUNGO Solutions yn esbonio'n fyr beth mae hyn yn ei olygu.
Transcript
Gweithgaredd 20 Beth sy’n gyrru trawsnewid digidol?
Darllenwch The 5 great shifts driving digital transformation (digileaders.com) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n archwilio rhai o’r meysydd mae arweinwyr sefydliadau angen eu hystyried, a The New Reality group’s research themes ac yna defnyddio’r ffeithlun ohono i feddwl am yr hyn sydd ei angen i alluogi trawsnewid digidol yn eich sefydliad.
Pa gamau sydd i weld yn briodol neu fwyaf perthnasol yn eich cyd-destun?
Gweithgaredd 21 Archwilio beth allai fod ynghlwm â thrawsnewid digidol ar gyfer SAUau
Archwiliwch yr adnoddau isod:
Dx: Digital Transformation of Higher Education | EDUCAUSEConsider the Three Ds When Talking about Digital Transformation | EDUCAUSE
Mae Educause yn awgrymu'r tri D yn y ddelwedd isod. Lle mae eich SAU chi ar ei daith tuag at drawsnewid digidol?
Mae’n rhaid ystyried trawsnewid digidol yng nghyd-destun ehangach datblygiad sefydliadol a’r amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddo, gan gynnwys lleihau allyriadau carbon i gyrraedd sero net erbyn 2050.