Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Sgiliau digidol ar gyfer y gweithle

Cyflymodd y pandemig COVID-19 yr angen am drawsnewid digidol a’r gallu i ddatblygu sgiliau a gallu digidol, wrth i unigolion a sefydliadau symud yn gyflym i ffyrdd newydd o weithio. Mae adroddiadau’n awgrymu bod trawsnewid digidol wedi cyflymu tua saith mlynedd yn ystod brig y pandemig yn 2020-21. Ar adeg y cyfnod clo cyntaf, cyflawnodd unigolion a sefydliadau addasiad digidol (h.y. gweithredu datrysiadau gweithio o bell) mewn 11 diwrnod ar gyfartaledd, gallai hyn fod wedi cymryd blynyddoedd i’w roi ar waith cyn COVID (McKinsey & company [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 2020).

Mae hyn wedi newid ein ffyrdd o weithio a’r galluoedd digidol cysylltiedig sydd eu hangen arnom mewn ffordd ddigynsail, ond mae’r pandemig hefyd wedi ehangu’r gagendor digidol - ‘y bwlch rhwng y bobl sydd â mynediad rhwydd at fuddion technoleg ddigidol a’r rhai sydd ddim’ (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, 2022).

Wrth i sefydliadau nawr addasu i ffyrdd newydd o weithio ar ôl y pandemig, mae nifer ohonynt yn mabwysiadu dull hybrid parhaol, gyda dros 80% o weithwyr yn awgrymu eu bod yn bwriadu defnyddio’r dull hwn o weithio. Mae angen i sefydliadau gynllunio ar gyfer y tymor hir, a chynnwys eu staff a sefydliadau allanol i ddatblygu sgiliau digidol ac integreiddio mesurau ataliol i leihau’r gagendor digidol. Mae angen i arweinwyr ddatblygu eu hyder a’u chwilfrydedd, a deall strategaethau’r llywodraeth a ‘diwydiant’, er mwyn datblygu galluoedd digidol sy’n arwain at drawsnewid digidol effeithiol. (SYG, 2022).

Yn achos sefydliadau addysg uwch (SAU), mae hefyd yn ddefnyddiol i ystyried galluoedd digidol uwch a disgwyliadau myfyrwyr ochr yn ochr â rhai'r staff. Mae hyn oherwydd bod profiad y genhedlaeth newydd o fyfyrwyr o’i gymharu â chenedlaethau’r gorffennol wedi bod yn wahanol, ac yn cael ei ddylanwadau gan y defnydd o dechnoleg yn ystod y pandemig a ffocws y llywodraeth ar sgiliau digidol o fewn y cwricwlwm. Mae Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Addysg Cymru, Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion yn ffynhonnell ddefnyddiol i ddeall y disgwyliadau o’r sgiliau digidol sydd i’w datblygu o fewn ysgolion.

Wrth feddwl am y sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer gweithio hybrid, mae canolbwyntio ar ‘brofiad y gweithiwr’ o safbwynt sefydliadol ac unigol yn helpu i sicrhau bod yr ymddygiad a’r sgiliau i ddefnyddio technoleg yn effeithiol yn gallu cael eu hystyried gyda’i gilydd, i adeiladu’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnoch chi.

Er mwyn cefnogi gweithio hybrid, mae rhai o’r sgiliau allweddol y bydd angen i chi efallai ystyried eu datblygu yn eich sefydliad wedi’u rhestru yn y tabl isod.

Tabl 3
Ymddygiad Sgiliau
Empathi Offer a systemau
Cyfathrebu Cydweithio ar-lein
Diogelwch ac ymddiriedaeth seicolegol Polisïau a phrosesau
Cydweithio Llywodraethu Data
Gwytnwch Diogelwch ar-lein ac all-lein
Tryloywder Rheoli gwybodaeth
Chwilfrydedd Ysgrifennu ar gyfer platfformau digidol
Datrys problemau Hawlfraint
Meithrin tîm Tegwch, amrywiaeth, hygyrchedd a chynhwysiant
Cynaliadwyedd Cynaliadwyedd digidol

Mae’n ddefnyddiol i gymhwyso lens digidol i’r ymddygiadau hyn fel ffordd o feddwl am sut ddylai galluoedd digidol edrych i chi fel unigolyn ac yn eich sefydliad yn ei gyfanrwydd. Trwy gydol y cwrs hwn ac yn y pecyn cymorth, byddwn yn archwilio’r sgiliau hyn ymhellach. Fe allai’r The Skills Toolkit a grëwyd gan y National Careers Service fod yn adnodd ychwanegol defnyddiol.

Gweithgaredd 4 Sgiliau ar gyfer creu cynnwys

Timing: 20 muned

Gwyliwch y fideo lle mae Sas Amoah, Cynhyrchydd Cyfryngau Digidol yn y Brifysgol Agored, yn siarad am bwysigrwydd sgiliau a chyfrifoldebau digidol.

Download this video clip.Video player: hyb_5_2022_sept103_sas_amoah_skills_for_content_production_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Wrth edrych ar yr ymddygiadau a’r sgiliau yn Nhabl 3 uchod a’r nodiadau y gwnaethoch wrth wylio’r fideo, pa feysydd ydych chi’n meddwl sydd efallai angen eu datblygu yn eich sefydliad chi?