Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.4 Eiddo deallusol (IP) a hawlfraint

Wrth ystyried sut ydych yn trin gwybodaeth a data, mae angen i chi hefyd feddwl am eiddo deallusol a hawlfraint. Mae’n bwnc eang, ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau a deall disgwyliadau eich sefydliad.

Mae eiddo deallusol fel arfer yn cynnwys:

  • enwau eich cynhyrchion neu brandiau
  • eich dyfeisiadau
  • dyluniad neu edrychiad eich cynhyrchion
  • pethau rydych yn ysgrifennu, creu neu gynhyrchu.

Intellectual property and your work: What intellectual property is [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (gov.uk).

Mae hawlfraint fel arfer yn cynnwys:

  • gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol ac artistig
  • meddalwedd, cynnwys gwe a chronfeydd data
  • recordiadau sain a cherddoriaeth
  • ffilmiau, rhaglenni teledu a gwe-ddarllediadau
  • argraffiadau cyhoeddedig.

Addaswyd o: Copyright, Designs and Patents Act, 1988.

Mae angen ystyried eiddo deallusol a hawlfraint o ddau gyfeiriad.

  1. Defnyddio a rhannu gwybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a chynnwys eich sefydliad – eich sefydliad sy’n berchen ar yr eiddo deallusol a’r hawlfraint. Felly, mae angen i chi fod yn ymwybodol o beth allwch chi a beth allwch chi ddim ei rannu yn gyhoeddus. Er enghraifft, efallai na fyddai’n ddoeth rhannu manylion am brosiect arloesi sy’n fasnachol sensitif neu ddetholiad o gwrs y gwnaethoch ei ysgrifennu – efallai nad chi sy’n berchen ar yr hawl i wneud hyn.
  2. Defnyddio deunyddiau pobl eraill - wrth ddefnyddio unrhyw gynnwys ‘trydydd parti’ – mae angen i chi wirio’r amodau defnydd wrth ddefnyddio cynnwys sydd ddim yn eiddo i chi na’ch sefydliad. Mae rhai sefydliadau fel NASA yn darparu’r rhain yn glir ar eu gwefan, ond mae eraill yn fwy cymhleth, oherwydd yn aml nid yr ‘awdur’ yw’r ‘perchennog’. Materion cyffredin sy’n codi o gysylltu ag erthyglau ar y we. Er y gallant fod ar gael yn rhwydd i’w cyrchu, mae llawer o sefydliadau’n codi tâl am gysyniad o’r enw ‘deeplinking’ – sef anfon defnyddwyr i dudalen benodol ar wefan, yn hytrach na’r hafan. Un o’r rhesymau dros hyn yw y gall arwain at golli incwm i berchennog y safle.

Gweithgaredd 17 Archwilio eiddo deallusol a hawlfraint ymhellach

Timing: 10 muned

Rheol sylfaenol ar gyfer eiddo deallusol a hawlfraint yw os ydych yn ansicr gofynnwch am gyngor a chaniatâd. Gwiriwch pa ganllawiau a gofynion sydd gan eich sefydliad ar waith. Er enghraifft, efallai bod gennych dudalen bwrpasol megis yr un isod gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Hwb Hawlfraint | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Os yw hwn yn faes sydd gennych ddiddordeb ynddo, efallai yr hoffech gael golwg ar yr adnoddau canlynol.

Patents, trade marks, copyright and designs (gov.uk)

Taflen ffeithiau Cyfraith Hawlfraint y DU: The UK Copyright Service