Bygythiadau diogelwch cyffredin
Systemau sydd wedi'u diogelu'n wael – sy’n cynyddu’r risg o ymosodiadau gan drydydd partïon neu gamddefnydd, naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol gan unigolion o fewn sefydliad.
Ymosodiadau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost – lle mae cyfrifon yn cael eu hacio, neu mae e-byst yn twyllo defnyddwyr i gyflawni gweithred sy'n peryglu diogelwch.
Maleiswedd – meddalwedd sy’n amharu ar, yn niweidio neu’n ennill mynediad anawdurdodedig at system gyfrifiadurol.
Maleiswedd ar ddyfeisiau – mae’r dyfeisiau a ddefnyddiwch (e.e. gliniaduron, dyfeisiau llechen a ffonau symudol) yn gallu dod dan fygythiad mewn gwahanol ffyrdd, ac yn aml, nid yw meddalwedd gwrthfeirysol yn ddigonol i rwystro’r bygythiadau hynny. Er y gall sefydliadau gymryd camau i leihau’r risgiau ar ddyfeisiau sydd dan berchnogaeth y sefydliad, cyfyngedig yw rheolaeth y sefydliad pan fydd pobl yn defnyddio’u dyfeisiau eu hunain ar gyfer gwaith.
Diffyg amgryptiad – gall defnyddio prosesau amgryptio i gael mynediad at ddyfeisiau helpu i atal colli data neu lygru offer.
Camgyfluniad diogelwch – mae’n hanfodol sicrhau bod yr holl blatfformau ac offer technoleg, gan gynnwys offer ar y we, wedi’u cyflunio a’u diweddaru’n gywir. Er bod llawer o gyfluniadau a diweddariadau yn awtomatig, mae rhai yn dibynnu ar unigolion i wneud y diweddariadau, ac mae'n bwysig eu bod yn deall sut i wneud hyn (Imperva [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , dim dyddiad).