8 Pedwar maes nyrsio
Mae nyrsio, fel y dysgoch chi yn Adran 1, yn cynnwys pedwar maes: nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl, nyrsio plant, a nyrsio anableddau dysgu. Pan fyddwch yn dewis nyrsio fel gyrfa, bydd angen i chi wybod hefyd pa faes hoffech ei astudio.
Bydd llawer o bobl yn dewis maes ar sail profiadau blaenorol – rhai personol ac yn y gwaith – a’r dyfodol maen nhw’n ei rag-weld i’w hunain fel nyrs. Yn yr adran hon, byddwch yn edrych ar bob maes nyrsio yn ei dro i’ch helpu i ystyried pa faes a allai fod fwyaf addas i chi.
Os ydych chi’n gwneud cais i ddilyn cwrs nyrsio, bydd angen i chi allu dangos pam eich bod wedi gwneud cais i’r maes dan sylw, yn ogystal â dangos dealltwriaeth o’r meysydd nyrsio eraill. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod wedi penderfynu pa faes nyrsio sydd o ddiddordeb i chi, bydd gwylio’r holl fideos yn yr adrannau canlynol yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r holl arbenigeddau.