8.5 Pa faes nyrsio sy’n addas i fi?
Nawr eich bod wedi gwylio fideos ar gyfer pob maes nyrsio, beth sydd fwyaf o ddiddordeb i chi am bob maes, a pham? Oes gennych chi ddiddordeb mewn un maes yn benodol?
Gwrandewch ar Glip Sain 1 a gwrando ar fyfyrwyr y Brifysgol Agored yn esbonio beth wnaeth eu hysbrydoli i fod yn nyrs, a pham eu bod wedi dewis astudio gyda’r Brifysgol Agored.
Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1
Transcript: Clip Sain 1
CYFWELYDD:
Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i fod yn nyrs?
MYFYRIWR 1:
Doeddwn i erioed wedi meddwl am fod yn nyrs cyn i mam fynd yn sâl. Ar y pryd, roeddwn i’n gweithio ym maes yswiriant a dwi’n cofio gwylio’r tîm lliniarol yn delio â mam, a sut roedden nhw’n ei thrin gyda chymaint o barch a charedigrwydd. Dwi’n cofio gwylio hynny a meddwl byddwn i wrth fy modd yn gallu gwneud hynny.
MYFYRIWR 2:
Yr hyn sy’n rhoi boddhad yn y swydd yw gwybod fy mod wedi gallu helpu rhywun i symud ymlaen gyda’i ofal neu ei nodau, dim ots pa mor fach yw fy rhan i.
MYFYRIWR 3:
Roedd tyfu i fyny gyda nain a gweld sut roedd ei salwch corfforol wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl wedi fy annog i ddilyn gyrfa mewn nyrsio iechyd meddwl. ‘Nes i wneud cais am swydd fel cynorthwyydd nyrsio ar ward seiciatrig acíwt a dwi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
MYFYRIWR 4
Yn yr ysgol gynradd, dwi’n cofio helpu i setlo plentyn ychydig flynyddoedd yn iau na fi. Roedd ganddo syndrom Down ac un tro, ‘nes i glywed ei rieni’n dweud wrth fy athro nad oedden nhw erioed wedi gweld eu mab yn cael ei drin fel rhywun cydradd gan un o’i gyfoedion. Er fy mod i mor ifanc, dwi’n cofio pa mor deimladwy oedd hynny a dwi’n meddwl bod fy angerdd yn deillio o hynny. Dwi’n teimlo’n gryf am eirioli dros hawliau pobl ag Anableddau Dysgu a chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar ofal a gwasanaethau.
MYFYRIWR 5
Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bod yn Nyrs Anableddau Dysgu gan fy mod i’n mwynhau ffurfio perthynas hirdymor gyda fy nghleifion, ac roeddwn i eisiau bod yn ddylanwad cyson a chadarnhaol ar fywydau’r bobl dwi’n eu cefnogi.
CYFWELYDD
Beth ydych chi wedi’i fwynhau am eich profiad hyd yma?
MYFYRIWR 2
Dwi wedi mwynhau’r amrywiaeth yn fy lleoliadau yn fawr. Mae hyn wedi fy ngalluogi i feddwl am ofal cleifion o wahanol safbwyntiau.
MYFYRIWR 1
Dwi wrth fy modd â rhan ymarferol y cwrs. Dwi wrth fy modd yn bod yn ymarferol, yn cwrdd â phobl, ac yn gwrando ar eu straeon neu eu hanesion. Dwi wedi mwynhau bob dydd o bob lleoliad gwaith hyd yma.
MYFYRIWR 3
Dwi wedi mwynhau sawl agwedd ar y rhaglen nyrsio, ond yn bennaf, dwi wedi mwynhau hyblygrwydd a hwylustod dysgu o bell.
CYFWELYDD
Pam wnaethoch chi ddewis astudio gyda’r Brifysgol Agored?
MYFYRIWR 3
Yn academaidd, doeddwn i byth yn hoff iawn o’r ystafell ddosbarth, ac roeddwn i’n hoffi’r syniad o gael cynllun astudio mwy hyblyg.
MYFYRIWR 5
Y Brifysgol Agored oedd y darparwr perffaith ar gyfer astudio gan fod y dysgu’n hyblyg a bod modd ei wneud pan fydd hi’n gyfleus i mi yn bennaf, hyd yn oed os yw hynny’n golygu mewngofnodi i ddarllen erthygl am 3am ar shifft nos dawel.
MYFYRIWR 2
Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn golygu eich bod yn gallu astudio gartref, ac yn gallu trefnu'r astudiaeth o amgylch eich bywyd a'ch gwaith.
Clip Sain 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).