Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio
Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Pwysigrwydd astudio nyrsio

Nodir y safonau ar gyfer addysg nyrsio gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), a ddysgoch amdanynt yn Adran 5. Mae hyn er mwyn sicrhau, lle bynnag y bydd y myfyriwr yn dilyn ei gwrs yn y DU, ei fod yn cyrraedd yr un safonau. Yn y DU, pan fydd myfyrwyr nyrsio yn dilyn eu cyrsiau, maen nhw’n astudio theori nyrsio, theori sut i ofalu, a theorïau ynghylch y ffordd orau o nyrsio. Mae’r elfen theori hon yn cyfrif am 50 y cant o’r cwrs, gyda’r gweddill yn digwydd mewn lleoliadau ymarfer neu leoliad gwaith er mwyn i fyfyrwyr allu dysgu a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth nyrsio tra byddant yn y gwaith.

Gall elfen theori astudiaeth nyrsio ddigwydd o bell neu wyneb yn wyneb – neu gall fod yn gymysgedd neu’n gyfuniad o’r ddau. Mae’r pynciau sy’n cael eu hastudio fel rhan o gyrsiau nyrsio yn cael eu cymhwyso’n benodol i ofal ac yn adeiladu’r wybodaeth sydd ei hangen ar nyrsys i ddarparu gofal da.

Maen nhw’n cynnwys:

  • Anatomeg a ffisioleg
  • Seicoleg
  • Cymdeithaseg
  • Theorïau nyrsio
  • Polisi cymdeithasol a gwleidyddiaeth.