2 Bod yn nyrs
Yn yr adran hon, byddwch yn edrych ar ddiffiniad nyrsio ac yn archwilio ymhellach beth mae’n ei olygu i fod yn nyrs yn y DU a thu hwnt.
Diffiniad nyrsio
Mae Cyngor Rhyngwladol y Nyrsys (2002) yn diffinio nyrsio fel a ganlyn:
Mae nyrsio yn cwmpasu gofal annibynnol a chydweithredol i unigolion o bob oed, teuluoedd, grwpiau a chymunedau, sâl neu iach ac ym mhob lleoliad. Mae nyrsio’n cynnwys hybu iechyd, atal salwch, a gofalu am bobl sâl, pobl anabl a phobl sy’n marw. Mae eiriolaeth, hyrwyddo amgylchedd diogel, ymchwil, cymryd rhan mewn llunio polisi iechyd ac mewn rheoli systemau iechyd a chleifion, ac addysg hefyd yn rolau nyrsio allweddol.
Mae negeseuon allweddol am nyrsio yn y diffiniad hwn, gan gynnwys sut mae’r ffocws mewn nyrsio nid yn unig ar y rhai sy’n sâl ond ar gynnal iechyd y rhai sy’n iach. Mae hon yn rôl allweddol wrth weithio gyda phobl o bob oed sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd eraill. Mae’n glir hefyd o’r diffiniad hwn bod nyrsys yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, nid dim ond ysbytai yn unig. Mae nyrsys hefyd yn gweithio ym maes addysg, ymchwil a llunio a siapio polisïau iechyd.
Yn y cwis yn Adran 1, fe wnaethoch chi edrych ar rai agweddau o’r hyn mae bod yn nyrs yn y DU yn ei olygu, ond wrth gwrs mae nyrsys yn bodoli ym mhob cwr o’r byd. Er y gall eu rolau amrywio, ac efallai eu bod nhw’n ymgymryd â gwahanol fathau o addysg i ddod yn nyrs o gymharu â’r rhai yn y DU, mae’r gair nyrs yn cael ei gydnabod yn fyd-eang. Yn ôl adroddiad ‘The State of the World’s Nursing 2020’ Sefydliad Iechyd y Byd, mae 27.9 miliwn o nyrsys ledled y byd ac mae’r gweithlu nyrsio byd-eang yn ffurfio’r grŵp mwyaf o weithwyr ym maes gofal iechyd (Sefydliad Iechyd y Byd, 2020).
Mae gan bob gwlad ei dull ei hun o addysgu nyrsys, ond ar hyn o bryd y DU yw’r unig wlad sydd â phedair ‘maes’ nyrsio ar adeg cymhwyso fel Nyrs Gofrestredig. Mae llawer o wledydd ag arddull addysgu fwy generig, lle mae’r nyrsys yn arbenigo ar ôl iddynt gymhwyso.
Mewn rhai gwledydd, mae rôl y fydwraig hefyd wedi’i chynnwys yn rôl y nyrs ac nid oes cymhwyster ar wahân ar gyfer bydwragedd. Fodd bynnag, yn y DU, mae bydwreigiaeth yn gymhwyster ar wahân gyda rhaglen addysgol ar wahân.
Bydd rôl nyrsys a’u haddysg hefyd yn adlewyrchu sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu sefydlu mewn gwlad benodol. Er enghraifft, mewn gwledydd lle mae gofal iechyd yn canolbwyntio ar driniaeth fwy arbenigol, fe welwch ragor o nyrsys arbenigol. Er enghraifft, yn y DU gall nyrsys astudio cyrsiau arbenigol ar ôl ennill eu cymhwyster cychwynnol i ddod yn Nyrsys Arbenigol Epilepsi neu Nyrsys Arbenigol Diabetes. Yn ogystal, gall nyrsys gyflawni rhagor o gymwysterau i ddod yn Nyrsys Ardal, Nyrsys Ysgol neu Ymwelwyr Iechyd yn y DU.
Mae nyrsio ledled y byd yn wynebu heriau tebyg, gan gynnwys prinder nyrsys ac, wrth gwrs, yn ddiweddar, pandemig byd-eang. Mae llawer o broblemau iechyd sy’n wynebu poblogaethau ledled y byd, gan gynnwys maeth (diffyg maeth a gordewdra), iechyd plant, gofal iechyd cynaliadwy, gofal brys a thrawma ac iechyd y cyhoedd mewn cymunedau. Mae nyrsys mewn llawer o wledydd hefyd yn gweithio mewn ardaloedd o wrthdaro ac yn darparu gofal o dan yr amodau mwyaf eithafol, er enghraifft mewn ysbytai maes yn ystod neu ar ôl rhyfel neu ar ôl trychinebau naturiol fel llifogydd a daeargrynfeydd.
Gweithgaredd 2 Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys
Bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn dathlu gwaith nyrsys ledled y byd. Gwyliwch Fideo 1 isod, a gafodd ei greu ar gyfer dathliad 2020.
Transcript: Fideo 1:
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Pa negeseuon wnaethoch chi sylwi arnyn nhw wrth wylio’r fideo hwn?
Trafodaeth
Mae’n bosibl eich bod wedi sylwi bod pobl o bob cwr o’r byd yn y fideo, a bod gan bob un ohonynt eu straeon eu hunain am sut roedd nyrsio wedi effeithio arnyn nhw’n bersonol. Mae’n bosibl bod y neges am brinder nyrsys ledled y byd a galw ar lywodraethau i ymateb i hyn hefyd wedi taro tant gyda chi.
Roedd y fideo hwn i fod i bara’n hirach, ond fel y dywedodd y cyflwynydd, cafodd pandemig COVID-19 effaith ar nyrsio ar draws y byd. Yna, cafwyd cyfres o ddelweddau o nyrsio a oedd yn dangos gwahanol rolau nyrsys mewn nifer o wahanol wledydd.