5 Rheoleiddio nyrsys yn y DU
Mae nyrsio yn y DU yn cael ei reoleiddio gan gorff o’r enw’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), lle mae manylion pob nyrs, bydwraig a chydymaith nyrsio cofrestredig yn cael eu cadw ar gronfa ddata o’r enw’r Gofrestr Nyrsio. Yr NMC sy’n gyfrifol am y Gofrestr, a nhw hefyd sy’n cynhyrchu safonau arfer da a chod ymarfer proffesiynol ar gyfer nyrsys a bydwragedd o’r enw ‘Y Cod’. Ar ben hynny, maen nhw’n llunio safonau ar gyfer addysg y mae’n rhaid i bob prifysgol sy’n cynnig addysg nyrsio lynu wrthynt.
Un o rolau allweddol yr NMC yw diogelu’r cyhoedd ac arwain nyrsys a bydwragedd yn eu hymarfer proffesiynol. Os nad yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ymarfer yn ddiogel, gall yr NMC ymchwilio i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel.
Gweithgaredd 8 Gwaith y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
Yn gyntaf, gwyliwch Fideo 4 am waith y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Transcript: Fideo 4:
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Ar ôl gwylio’r fideo, ystyriwch pam rydych chi’n meddwl ei bod yn bwysig cael corff rheoleiddio i ddiogelu’r cyhoedd.
Trafodaeth
Efallai eich bod wedi meddwl am awgrymiadau fel: oherwydd bod nyrsys yn gweithio gyda phobl agored i niwed, neu oherwydd bod nyrsys ar gofrestr genedlaethol. Mae’r ddau beth yma’n wir. Mae gan yr NMC gofrestr y mae’r holl nyrsys cofrestredig (a chymdeithion nyrsio) yn rhan ohoni. Er mwyn diogelu’r cyhoedd, mae’r NMC yn monitro arferion pob nyrs ar y gofrestr.
Beth sy’n gwneud nyrsys da yn eich barn chi?
Trafodaeth
Efallai eich bod wedi cynnwys nodweddion fel gonestrwydd ac amynedd, ond hefyd sgiliau a gwybodaeth benodol. Mae nyrs yn gyfuniad o sgiliau, gwybodaeth ac agweddau, ac mae’r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y Cod (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, 2018).
Nawr gwyliwch yr animeiddiad byr yn Fideo 5 gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sy’n canolbwyntio ar un elfen o’r Cod.

Transcript: Fideo 5:
Ydych chi’n meddwl bod nyrs yn dal i fod yn nyrs, hyd yn oed pan fydd yn gorffen ei shifft yn y gwaith ac yn mynd adref?
Pam ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod nyrsys yn gallu dangos proffesiynoldeb yn eu gwaith o ddydd i ddydd a’r tu allan i’r gwaith?
Trafodaeth
Mae bod yn nyrs yn golygu mwy na chynnal safonau proffesiynol wrth weithio. Fel y gwelsoch yn Fideo 5, mae’r ffordd y mae nyrsys yn ymddwyn pan nad ydynt yn y gwaith yn dylanwadu ar yr hyder sydd gan y cyhoedd mewn nyrsio fel proffesiwn. Er enghraifft, dychmygwch senario lle mae rhywun yn torri’r gyfraith, neu’n bod yn greulon neu’n gas, a’ch bod yn darganfod wedyn bod y person hwnnw’n nyrs. Fyddai gennych chi hyder ynddo, yn gwybod y gallai fod yn darparu gofal i chi rhyw ddiwrnod?
Mae’r Cod yn arwain nyrsys a’u hymddygiad proffesiynol, boed hynny yn y gwaith ai peidio.