4 Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill – rôl y tîm amlddisgyblaethol
Yn aml, mae gan gleifion anghenion lluosog ac weithiau cymhleth sy’n golygu bod angen i fwy nag un ddisgyblaeth broffesiynol gymryd rhan yn eu gofal. Ym maes gofal iechyd, mae gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn cydweithio i ffurfio Timau Amlddisgyblaethol. Mae NHS England wedi disgrifio gwaith amlddisgyblaethol yn eu hadroddiad yn 2015 fel a ganlyn.
Mae gwaith Amlddisgyblaethol ac Amlasiantaeth yn golygu defnyddio gwybodaeth, sgiliau ac arferion gorau yn briodol o sawl disgyblaeth ac ar draws ffiniau darparwyr gwasanaethau, e.e. darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol neu’r sector gwirfoddol a phreifat i ailddiffinio, ail-gwmpasu ac ail-fframio problemau yn ymwneud â darparu iechyd a gofal cymdeithasol a dod o hyd i atebion sy’n seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth well o anghenion cymhleth cleifion.
Fel y nodwyd yn y dyfyniad o adroddiad NHS England, mae’r claf yn ganolog i waith amlddisgyblaethol ym maes gofal iechyd; i asesu, cynllunio, a rheoli gofal ar y cyd ac yn effeithiol. Bydd tîm amlddisgyblaethol ym maes gofal iechyd yn cynnwys nifer o weithwyr proffesiynol o wahanol ddisgyblaethau. Gall y rhain amrywio yn dibynnu ar y gwasanaeth neu ar anghenion y cleient. Er enghraifft, gall Tîm Amlddisgyblaethol cymunedol sy’n gweithio gydag unigolyn hŷn sy’n gwella ar ôl torri ei glun gynnwys meddyg teulu, nyrs gymunedol, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol a ffisiotherapydd.
Gweithgaredd 6 Adnabod aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol
Dyma rai enghreifftiau o gleifion a’u hanghenion. Edrychwch i weld a allwch chi nodi’r gwahanol weithwyr proffesiynol y gallai nyrs weithio gyda nhw mewn tîm amlddisgyblaethol ar gyfer pob claf.
Claf 1
Mae gan Martin broblem iechyd meddwl cronig ers sawl blwyddyn. Dro yn ôl, roedd yn glaf mewnol mewn ysbyty arbenigol yn cael triniaeth ar gyfer episod seicotig. Mae’n cymryd meddyginiaeth reolaidd y mae angen ei hadolygu bob chwe mis ac mae wedi cofrestru gyda’i feddyg teulu lleol. Mae Martin bellach yn byw mewn fflat bach ac yn cwrdd â’i nyrs iechyd meddwl cymunedol fel rhan o’i gynllun gofal. Mae Martin yn anhapus lle mae’n byw ac yn cael trafferth gyda’i arian a chael gafael ar fudd-daliadau. Gall hyn effeithio ar ei gyflwr iechyd meddwl.
Trafodaeth
Yn ogystal â’r nyrs iechyd meddwl, gall y Tîm Amlddisgyblaethol sy’n cefnogi Martin gynnwys meddyg teulu, seiciatrydd, gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai, therapydd galwedigaethol a seicolegydd.
Claf 2
Mae Nhu yn 12 oed ac yn byw gyda chyflwr iechyd hirdymor sy’n effeithio ar ei gallu i symud ac anadlu. Mae hi’n cael ei bwydo drwy diwb ac mae angen ocsigen arni yn ystod y nos. Mae ei rhieni wedi gwneud addasiadau i’r cartref a’i hystafell wely, ond wrth iddi dyfu, maen nhw’n ei chael yn fwy anodd ei helpu gyda’i gweithgareddau bob dydd. Mae gan Nhu chwaer hŷn 15 oed sy’n helpu ei rhieni i ofalu amdani. Mae gan Nhu nyrs gymunedol plant sy’n ymweld â’r teulu’n rheolaidd.
Trafodaeth
Yn ogystal â’r nyrs gymunedol (a allai fod yn nyrs arbenigol plant), gall y Tîm Amlddisgyblaethol sy’n cefnogi Nhu gynnwys pediatregydd, meddyg teulu, nyrs ardal, ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai a therapydd iaith a lleferydd.
Claf 3
Mae Ademola yn 55 oed ac yn byw gartref gyda’i fam. Mae ganddo anabledd dysgu a rhai problemau iechyd sy’n ymwneud â’i epilepsi a’i asthma. Mae’n mynychu cynllun gwaith dri diwrnod yr wythnos, ond byddai hefyd yn hoffi gwneud mwy o weithgareddau gartref ac yn ei gymuned leol. Mae gan Ademola nyrs gymunedol anableddau dysgu sy’n ymweld ag ef yn rheolaidd i’w helpu gyda’i anghenion iechyd.
Trafodaeth
Yn ogystal â’r nyrs gymunedol anableddau dysgu, gall y Tîm Amlddisgyblaethol sy’n cefnogi Ademola gynnwys meddyg teulu, nyrs practis, gweithiwr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol, seiciatrydd, nyrs arbenigol epilepsi a nyrs arbenigol asthma. Gallai’r sector gwirfoddol hefyd fod yn rhan o ofal Ademola i’w helpu i gael mynediad at weithgareddau yn y gymuned.
Mae gweithio amlddisgyblaethol yn golygu bod sawl gweithiwr proffesiynol, yn ogystal â’r unigolyn sy’n derbyn gofal, yn cyfrannu at benderfyniadau’n ymwneud â’r gofal. Os yw’n blentyn, mae’n bosibl mai’r teulu yw hwnnw, ond gofynnir am farn y plentyn hefyd os yw hynny’n bosibl. Yn aml, mae’n bosibl na fydd teuluoedd a gofalwyr yn gweld y gwahanol weithwyr proffesiynol yn y tîm amlddisgyblaethol yn cydweithio, ond dylent sylwi ar ganlyniadau cadarnhaol gwaith Tîm Amlddisgyblaethol effeithiol. Gyda chyflyrau iechyd cronig neu anabledd hirdymor, gall y claf neu ei ofalwr weithio gyda llawer o weithwyr proffesiynol dros nifer o flynyddoedd mewn timau amlddisgyblaethol gwahanol, ond gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ddylai fod hanfod pob un.
Gweithgaredd 7 Persbectif rhiant o’r tîm amlddisgyblaethol
Yn Fideo 3, byddwch yn clywed gan Hayley sydd gan ferch â syndrom Down. Yn y fideo, mae Hayley yn sôn am y gwahanol weithwyr proffesiynol y mae hi wedi dod ar eu traws wrth i’w merch dyfu o fod yn fabi i fod yn blentyn. Mae hi’n sôn yn benodol am ddysgu am yr hyn y mae nyrsys anableddau dysgu yn ei wneud. Mae hon yn enghraifft dda o sut nad yw rhieni, gofalwyr neu’r cleifion eu hunain o bosibl yn deall rôl gweithwyr proffesiynol yn y tîm yn llawn nes eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gofal.
Wrth i chi wylio’r fideo, meddyliwch am nifer y gweithwyr proffesiynol y gallai Hayley fod wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn ystod plentyndod cynnar ei merch.
Transcript: Fideo 3:
a.
Cyfathrebu
b.
Gweithio mewn tîm
c.
Rheoli amser
d.
Deall rolau pobl eraill
e.
Cyfrannu at benderfyniadau ar y cyd
f.
Pob un o’r uchod
Yr ateb cywir yw f.
Trafodaeth
Os oeddech chi’n meddwl bod y rhain i gyd yn hanfodol i weithio’n dda mewn tîm, roeddech chi’n gywir. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen er mwyn gweithio mewn timau.
Mae nyrsys yn gweithio mewn timau ond maen nhw hefyd yn atebol yn unigol am eu hymarfer eu hunain. Mae’r adran nesaf yn edrych ar waith y corff rheoleiddio ar gyfer nyrsys yn y DU.