6.1 Astudiaeth theori nyrsio
Nesaf, byddwch yn edrych ar bob un o’r pum pwnc a drafodir yn yr astudiaeth theori nyrsio yn eu tro, ac yn ystyried sut mae pob un yn cysylltu ag ymarfer nyrsio.
Anatomeg a ffisioleg
Mae anatomi a ffisioleg yn golygu astudio nid yn unig strwythur y corff dynol ond hefyd ei swyddogaethau. Mae’n cynnwys deall yr anhwylderau sy’n gysylltiedig â phob swyddogaeth a strwythur y corff.
Enghraifft
Strwythur:
Y system anadlu
Swyddogaeth:
Anadlu gan gynnwys cyfnewid nwyon.
Cyflwr iechyd:
Asthma.
Felly, gallai hyn ymddangos yn theori resymegol i fod yn sail i ymarfer nyrsio, ond mae ein lles hefyd yn gysylltiedig â sut mae ein meddyliau’n gweithio, felly gadewch i ni edrych ar seicoleg.
Seicoleg
Mae seicoleg yn wyddor y gellir, fel gwyddorau eraill, ei hastudio y tu allan i nyrsio. Mae elfennau o theori seicoleg yn sail i ymarfer nyrsio. Er enghraifft, deall ymddygiad gan gynnwys ymddygiad iechyd, ymatebion emosiynol, cyfathrebu, hunanymwybyddiaeth a gwneud penderfyniadau.
Enghraifft
Theori seicolegol:
Ymddygiad iechyd.
Ymyriad nyrsio:
Cefnogi rhoi’r gorau i ysmygu.
Mae deall y rhesymau pam mae pobl yn gwneud y dewisiadau maen nhw’n eu gwneud mewn perthynas â’u hiechyd, a’r damcaniaethau seicolegol sy’n sail i hyn, yn gallu bod yn gymorth i nyrsys wrth iddynt gynnig cymorth gydag ymddygiadau fel rhoi’r gorau i ysmygu.
Cymdeithaseg
Mae cymdeithaseg hefyd yn wyddor sy’n aml yn cael ei hastudio fel pwnc ar wahân, ond pan gaiff ei chymhwyso i nyrsio, gall helpu nyrsys i ddeall sawl agwedd ar iechyd. Er enghraifft, mewn cymdeithas, mewn perthynas â deinameg teulu, diwylliant.
Enghraifft
Theori gymdeithasegol:
Mae theori labelu yn enghraifft lle mae’r label sy’n gysylltiedig â rhywun yn siapio eu hymddygiad a sut mae pobl o’u cwmpas yn eu gweld nhw. Gall labeli mewn nyrsio gynnwys: sâl, anabl neu salwch meddwl.
Ymyriad nyrsio:
Cynnig gofal anfeirniadol/gwrth-wahaniaethol.
Gall deall natur labelu a sut gallai’r labeli hyn newid rhyngweithiad a/neu ddisgwyliadau’r rheini sydd â’r label hwn gefnogi ymyriadau nyrsio.
Theori nyrsio
Mae theorïau penodol ynghylch nyrsio sy’n sail i ymarfer nyrsio. Mae’r rhain yn aml yn ymwneud â modelau gofal a fframweithiau ar gyfer darparu gofal.
Enghraifft
Theori:
Theori hunanofal Orem. Mae’r theori hon yn nodi agweddau ar hunanofal a phwysigrwydd rhoi rheolaeth i’r claf.
Ymyriad nyrsio:
Cefnogi’r claf i reoli ei iechyd a’i les ei hun.
Theori polisi cymdeithasol a gwleidyddiaeth
Mae nyrsys yn gweithio mewn tirwedd wleidyddol; mae iechyd yn agwedd allweddol ar agenda wleidyddol a pholisi cymdeithasol pob cymdeithas. Mae deall y cyd-destun y mae nyrsys yn gweithio ynddo yn bwysig i bob nyrs.
Enghraifft
Theori gymdeithasol a gwleidyddiaeth:
Enghraifft bosibl fyddai datblygu polisi newydd ar gyfer gofal dementia. Bydd y polisi hwn nid yn unig yn llunio datblygiad gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia, ond bydd hefyd yn cynnig arweiniad i’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau hynny.
Ymyriad nyrsio:
Mae’r nyrs sy’n gweithio gyda’r unigolyn â dementia a’i deulu yn deall pa wasanaethau allai fod ar gael nawr ac yn y dyfodol.
Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn edrych ar sut gall myfyriwr nyrsio fynd ymlaen i gymhwyso’r theori hon mewn sefyllfa ymarferol.
Gweithgaredd 9 Rhoi'r dysgu yn y dosbarth ar waith
Yn yr astudiaeth achos ganlynol, mae Harry yn fyfyriwr nyrsio ym mlwyddyn olaf ei gwrs nyrsio ac mae’n ymweld â theulu gyda’i fentor fel rhan o’i leoliad cymunedol. Wrth i chi ddarllen, meddyliwch am rywfaint o’r theori y gallai Harry fod wedi bod yn ei hastudio yn y brifysgol i’w helpu i ddeall anghenion ei glaf.
Mae Harry yn ymweld â Mrs Kowalczyk, dynes 83 oed sy’n byw gyda’i merch a’i theulu – gŵr a dau o blant yn eu harddegau. Yn ddiweddar, roedd Mrs Kowalczyk wedi cwympo a thorri ei chlun. Mae hi wedi dychwelyd o’r ysbyty ar ôl cael clun newydd ac yn gwella’n dda yn gorfforol. Mae ei merch yn dweud wrth y nyrsys ei bod yn poeni bod ei mam yn dal i fod yn simsan wrth gerdded ac efallai y bydd angen addasu’r tŷ i’w wneud yn ddiogel. Mae hi’n hapus bod ei mam yn byw gyda nhw ond mae hi wedi sylwi bod ei mam wedi mynd yn anghofus iawn, ac wedi dechrau siarad Pwyleg, ei mamiaith, pan fydd hi’n drist. Mae merch Mrs Kowalczyk hefyd yn dweud wrthynt fod ei phlant yn cael trafferth deall pam nad yw eu nain yn gallu cofio eu henwau a’i bod mor ddryslyd, ac maen nhw wedi dechrau treulio mwy o amser yng nghartrefi ffrindiau.
Trafodaeth
Bydd Harry wedi bod yn astudio amrywiaeth o bynciau ar ei gwrs prifysgol gan gynnwys anatomeg a ffisioleg, cymdeithaseg a seicoleg. Bydd hefyd wedi astudio iechyd a diogelwch, a bydd yn deall sut y gallai fod angen i nyrsys helpu cleifion a’u teuluoedd i gael gafael ar wahanol wasanaethau.
Yn y senario hon, bydd Harry yn defnyddio ei wybodaeth am anatomeg a ffisioleg i ddeall beth sydd wedi digwydd i glun Mrs Kowalczyk, y llawdriniaeth a sut mae’n gwella. Bydd hefyd wedi astudio cymdeithaseg a bydd yn ymwybodol o amrywiaeth ddiwylliannol, a deinameg teulu. Hefyd, drwy astudio seicoleg, bydd ganddo ddealltwriaeth o ymddygiad iechyd ac effaith salwch ar deulu, nid ar y claf yn unig.
Bydd Harry wedi astudio asesiadau nyrsio a dementia, a bydd yn ymwybodol y gallai’r nyrs gymwysedig awgrymu asesiad dementia. Mae’n gwybod hefyd y gall y nyrs atgyfeirio at weithwyr proffesiynol eraill, fel ffisiotherapydd a therapydd galwedigaethol ar gyfer asesiadau symudedd a sgiliau yn y cartref.
Dyma rai enghreifftiau o sut bydd Harry yn defnyddio ei wybodaeth am y theori i lywio ei ymarfer fel nyrs a deall y penderfyniadau y bydd yn eu gwneud pan fydd yn nyrs cymwysedig.
Beth yw eich myfyrdodau ar sut mae Harry wedi defnyddio ei wybodaeth am theorïau?