7 Rôl defnyddwyr gwasanaethau mewn gofal iechyd
Mae defnyddwyr gwasanaethau yn rhan allweddol o’r GIG. Mewn grwpiau yn aml, maen nhw’n darparu adnodd i lywio’r gwaith o wella gwasanaethau, ac yn cynnig eu safbwyntiau i wneud penderfyniadau a newidiadau mewn sefydliadau.
Ym mhob un o bedair gwlad y DU, mae defnyddwyr gwasanaethau wrth galon eu gwasanaethau iechyd a’u gwaith cynllunio iechyd. Mae rôl y gofalwr neu’r defnyddiwr gwasanaethau yn y GIG wedi bod yn tyfu am dros ddegawd bellach. Mae hyn wedi golygu bod gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau gofal iechyd yn cael mewnbwn ar bob lefel, o lunio polisïau i gynghori ar welliannau i wasanaethau ar lefel ward neu uned.
Mae gan lawer o wasanaethau yn y GIG lwybrau penodol ar gyfer cynnwys defnyddwyr gwasanaethau drwy bwyllgorau, grwpiau ac adnoddau fel arolygon boddhad ac adborth cleifion.
Gweithgaredd 10 Lleisiau gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau
Gwyliwch Fideo 6 a meddwl am y cwestiynau canlynol.
Pam ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig rhoi llais i ofalwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau?
Sut ydych chi’n meddwl y gall cynnwys defnyddwyr gwasanaethau helpu nyrsys i ddarparu gofal gwell?
Transcript: Fideo 6:
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Trafodaeth
Mae gan y bobl ifanc yn y fideo hwn farn am y gwasanaeth iechyd a sut hoffent ei weld yn cael ei newid a’i siapio yn y dyfodol. Mae’r fforymau wedi galluogi hyn i ddigwydd.
I nyrsys, mae gwrando ar yr hyn sydd ei eisiau ar gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, a’u profiadau o’r gwasanaethau, yn helpu i lunio a datblygu gofal o ansawdd da.