Casgliad
Yn y cwrs hwn, rydych chi wedi archwilio nyrsio yn y DU, y pedwar maes nyrsio, sut mae nyrsys yn hyfforddi, beth maen nhw’n ei astudio a sut maen nhw’n cael eu rheoleiddio. Rydych chi hefyd wedi edrych ar y gwerthoedd sy’n sail i ymarfer nyrsio a’r hyn y mae bod yn nyrs ar draws y byd yn ei olygu.
Gobeithio bod y cwrs hwn wedi rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am nyrsio ac a ydych chi’n teimlo mai dyma’r yrfa i chi.
Erbyn hyn, dylech chi allu:
- nodi’r cyfleoedd a’r rolau allweddol y mae nyrsys yn eu cyflawni yn y DU heddiw
- crynhoi rhai o’r heriau allweddol y mae nyrsys yn eu hwynebu a sefydlu beth sy’n gwneud nyrsys gwych
- deall y gwahaniaethau rhwng y pedwar maes nyrsio a’r gwahanol ffyrdd o ddod yn Nyrs Gofrestredig yn y DU.
Mae’r cwrs OpenLearn hwn yn cael ei greu ar y cyd â chyrsiau’r Brifysgol Agored mewn Nyrsio a Gofal Iechyd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .