Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Creu deiseb

Gall codi ymwybyddiaeth o fater drwy ddeisebau gysylltu pobl o bob rhan o’r DU ar fater sy’n bwysig iddyn nhw. Gall ddangos i Aelodau Seneddol sut y mae mater yn effeithio ar eu hetholwyr a pha mor gryf y mae pobl yn teimlo ar y cyd.

Mae gan Senedd y DU broses ddeisebau swyddogol. Gallwch greu eich deiseb ar-lein yn petition.parliament.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Rhaid iddo fod yn rhywbeth y mae Senedd y DU neu’r llywodraeth yn gyfrifol amdano. Dim ond dinasyddion Prydeinig a thrigolion y DU sy’n gallu creu neu lofnodi deiseb.

Os bydd eich deiseb yn cael 10,000 o lofnodion, byddwch yn cael ymateb gan y llywodraeth. Mae ymateb gan y llywodraeth yn gam pwysig iawn i unrhyw ymgyrch. Gall helpu i egluro sefyllfa’r llywodraeth ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i’r deisebydd y gall ddewis cymryd camau pellach yn ei sgil.

Os bydd eich deiseb yn cael 100,000 o lofnodion, bydd (bron bob amser) yn cael ei rhoi ar amserlen ar gyfer dadl. Gallai ASau ystyried deiseb am ddadl cyn iddi gyrraedd 100,000 o lofnodion. Weithiau, gwahoddir pobl sy’n creu deisebau i gymryd rhan mewn trafodaeth gydag ASau neu weinidogion y llywodraeth, neu i roi tystiolaeth i bwyllgor dethol. Gall y Pwyllgor Deisebau hefyd ysgrifennu at bobl neu sefydliadau eraill i ofyn iddynt am y mater a godir gan eich deiseb.

Er y gallech nodi eich uchelgais i newid y gyfraith, mae llawer o ganlyniadau arwyddocaol eraill y gall deiseb gan Senedd y DU eu cyflawni. Mae cael amser dadlau ar agenda Senedd y DU yn gam enfawr gan fod yn rhaid i weinidogion esbonio polisi'r llywodraeth a wynebu cwestiynau heriol gan ASau o bob plaid. A pheidiwch byth â diystyru gwerth codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fater. Gall gysylltu pobl ar draws y DU â phrofiadau tebyg a bod yn sbardun i ymgyrch ehangach i sicrhau newid.

Gellir defnyddio safleoedd fel Change.org a 38Derreees.org.uk hefyd i sefydlu deisebau ar-lein, neu gallwch gyflwyno deiseb (bron fel cwyn ffurfiol) i sefydliad yn uniongyrchol. Wrth ddewis pa safle deisebau i’w ddefnyddio, mae angen i chi feddwl am yr hyn rydych chi’n ceisio’i gyflawni. Mae safle deiseb Senedd y DU yn ddefnyddiol os ydych chi am gael ymateb gan y llywodraeth a thrafod y pwnc yn Senedd y DU. Gall safleoedd deisebau eraill helpu i godi ymwybyddiaeth, casglu cefnogaeth, a chasglu sylw gan y cyfryngau.

Mae deiseb dda yn glir ac yn hawdd ei deall, mae ganddi nod realistig a phenodol (mae’n aml yn syniad da dechrau gyda newid llai y gellir adeiladu arno). Mae’n amlinellu’r mater ac yn darparu dolenni at ragor o wybodaeth, mae’n cael ei chyfeirio at y bobl iawn, a’i lansio ar yr adeg iawn.

Gweithgaredd 2: dod o hyd i’ch cynrychiolydd yn Senedd y DU

Timing: 15 munud

Os ydych chi’n byw yn y DU, treuliwch rywfaint o amser yn canfod pwy yw eich Aelod Seneddol lleol. Gallwch hefyd edrych ar aelodau Tŷ’r Arglwyddi i weld pa rai sydd â diddordeb yn yr un materion â chi.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch hefyd ddod o hyd i’ch cynrychiolydd datganoledig. Darllenwch Adran 3 i gael gwybod mwy.

Os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU, gallwch hefyd chwilio am eich cynrychiolydd/cynrychiolwyr etholedig eich hun.