Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 CVs Rhithwir

Mae'r gweithle hybrid wedi effeithio ar y gweithgareddau o ddydd i ddydd sy'n ymwneud â llawer o swyddi, yn ogystal â newid yn sylweddol sut mae pobl yn cael swyddi yn y lle cyntaf. O’r sgiliau newydd sydd eu hangen wrth wneud cais, i gynnydd cyfweliadau rhithwir, mae'r ffordd rydym yn ymgeisio am swyddi wedi newid yn aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r CV rhithwir wedi dod yn ganolbwynt, â safleoedd fel LinkedIn neu Indeed yn gweithredu fel man lle gall pobl adeiladu eu CV. Os nad oes gennych broffil LinkedIn (neu debyg), rydym yn argymell yn fawr eich bod yn creu un ac yn dechrau ychwanegu pobl at eich rhwydwaith, oherwydd y bydd hyn yn eich gwneud yn fwy gweladwy i ddarpar gyflogwyr. Bydd recriwtwyr yn chwilio gwasanaethau fel LinkedIn ar sail ar eich swydd bresennol, felly hyd yn oed os nad oes gennych swydd, dylech barhau i roi rhywbeth yn y blwch 'teitl swydd bresennol', fel 'Cyfrifydd Dan Hyfforddiant' neu ba bynnag swydd y dymunwch ei chael. Yna, yn y 'blwch cwmni' dylech ysgrifennu 'yn chwilio am gyfle newydd' yn syml. Bydd hyn yn helpu i ddangos i recriwtwyr a chwmnïau eich bod yn bendant yn chwilio am rôl, a byddwch yn ymddangos ar yr algorithm yn fwy amlwg.

Gweithgaredd 4 Diweddaru (neu greu) eich CV rhithwir

Timing: 20–30 munud

Darllenwch yr erthygl Networking for Job Seekers: 10 LinkedIn Alternatives [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i edrych ar y safleoedd rhwydweithio proffesiynol gwahanol. Bellach bydd gan lawer o weithwyr proffesiynol broffil LinkedIn, yn ogystal â phroffiliau ar wefannau sy'n arbenigo mewn swyddi yn eu sector o ddewis.

Yna, gwyliwch y fideo YouTube 5 Must-know LinkedIn Profile Tips for Job Seekers! (Jeff Su 2022) i gael awgrymiadau ar gyfer creu proffil LinkedIn gwych, y gellir eu cymhwyso i unrhyw wefan rwydweithio rydych yn ei ddewis.

Yn olaf, crewch eu diweddarwch eich proffil ar sail yr awgrymiadau yn fideo Jeff Su a'r rheiny a nodwyd uchod. Os nad oes gennych broffil LinkedIn, dyma'r amser i greu un!

Mae gan wasanaethau fel LinkedIn adran 'amdanaf i' hefyd a ddylai weithredu fel eich prif CV digidol. Pan fydd cyflogwyr yn edrych ar eich proffil, dyma fyddant yn chwilio drwyddo i weld a yw’ch profiad yn berthnasol. Felly, dylai'r adran 'amdanaf i' gyd-fynd â'ch CV, ag ychydig baragraffau yn esbonio'ch prif gyflawniadau, sgiliau, a phrofiad. Eto, ceisiwch ddefnyddio rhifau neu dystiolaeth o effaith i gefnogi'r hyn rydych yn ei ddweud. Dylech hefyd geisio ychwanegu geiriau allweddol yma y gallai recriwtwyr fod yn edrych arnynt ar gyfer eich rôl benodol, oherwydd y bydd hyn yn helpu recriwtwyr i ddod o hyd i chi.