Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Cydweithio rhithiwir yn y gweithle

Mae trafodaethau am gydweithio rhithwir yn y gweithle yn dyddio'n ôl i ddechreuadau'r rhyngrwyd (Cascio, 2000). Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diweddar bu cynnydd enfawr mewn gwaith pell/hybrid, ac ers hynny mae pwysigrwydd cydweithio rhithwir wedi'i ailddiffinio (Colbert et al., 2016; Ferreora-Lopes a Rompay-Bartels, 2020).

Nid yw cydweithio rhithwir bellach yn ymwneud â chyfathrebu o bell yn unig. Mae'n cynnwys dogfennau y gellir eu rhannu, tasgau cydweithredol, a rheoli cynnwys rhithwir. Gyda'r dechnoleg sydd ar gael i ni bellach, gallwn weithio ar brosiectau cydweithredol o ansawdd uchel heb fod angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Mae cydweithio yn rhan allweddol o'r gweithle. I lawer o bobl, yr unig ffordd i wneud gwaith yn effeithiol yw partneru â phobl eraill. Mewn amgylchedd hybrid, mae'n bwysig nad effeithir ar gydweithio. Hyd yn oed os na allwch siarad â rhywun wyneb yn wyneb, ni ddylai atal eich gallu i gyfathrebu a chydweithio'n effeithiol ar brosiectau.

Gweitharedd 11 Beth sy'n gwneud cydweithio rhithwir yn heriol?

Timing: 5 munud

Meddyliwch am adeg pan rydych wedi cydweithio'n rhithiol ar brosiect.

Beth gweithiodd yn dda, beth oedd y prif heriau roeddech yn eu hwynebu, a sut wnaethoch eu goresgyn?

Beth fyddech yn ei wneud yn wahanol ar brosiectau tebyg yn y dyfodol?

Heb gydweithio effeithiol, gall gwaith hybrid ddod yn gamweithredol. Felly mae'n hanfodol eich bod yn ymgysylltu'n rheolaidd â'ch tîm(au) a rheolwr llinell. Bydd llawer o dimau’n cael ddiweddariadau dyddiol neu 'gyfarfodydd byr wrth sefyll', cyfarfodydd wythnosol, a/neu adolygiadau misol. Os nad oes cyfleoedd wedi'u trefnu ar gyfer cydweithio, gallech geisio creu rhywbeth tebyg eich hun, er enghraifft trefnu diweddariadau rheolaidd â’ch tîm neu gyfathrebu â chyd-weithiwr am unrhyw bryderon sydd gennych, neu ofyn am help â thasg. Yn bwysicaf oll, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gysylltu â phobl, boed hynny trwy systemau negeseuon dynodedig eich sefydliad, negeseuon e-bost ‘dal i fyny’ neu alwadau wythnosol. Mewn swyddfa draddodiadol, mae'n debyg y byddech yn cael sgyrsiau rheolaidd - ffurfiol ac anffurfiol - â phobl eraill, felly peidiwch â gadael iddo fod yn wahanol yn y byd hybrid. Heb y rhyngweithio hyn, gallai blinder ac unigrwydd ddod yn broblem ddifrifol.

Sut yn union y dylid gwneud hyn? Mae'r gweithgaredd nesaf yn cynnig rhai awgrymiadau.

Gweithgaredd 12 Beth sy’n gwneud cydweithio rhithwir yn effeithiol?

Timing: 15 munud
  1. Darllenwch yr erthygl hon yn Harvard Business Review 4 tips for effective virtual collaboration [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Saunders, 2020). Yn eich barn chi, pa un o'r rhain fyddai'r rhai mwyaf defnyddiol? Pam?

  2. Lluniwch eich rhestr pedwar uchaf eich hun ar gyfer cydweithio rhithwir. Yn eich bar chi, pa bedwar peth allweddol fyddai'n eich helpu chi fwyaf i lwyddo mewn unrhyw dasg gydweithredol rithwir?

Mae sawl ffordd y bydd cydweithwyr yn y gweithle rhithwir yn cydweithio. P'un a yw hynny ar alwad fideo, dogfennau a rennir y gellir eu golygu, neu offer cydweithio eraill. Mae llawer o'r sgiliau hyn eisoes wedi'u crybwyll, ond peidiwch ag anghofio gadw i fyny â'r offer a'r rhaglenni diweddaraf. Bydd hyn yn eich helpu i fod yn llwyddiannus yn eich rôl newydd, yn ogystal â gallu’ch helpu i ffurfio perthnasau ag amrywiaeth o wahanol bobl.

Un o anfanteision gweithio pell, i lawer o bobl, yw bod meithrin perthnasau gwaith neu gyfeillgarwch newydd â’ch cydweithwyr yn gallu bod yn anoddach. Fodd bynnag, os ydych yn dda am waith cydweithredol, a'ch bod yn gwneud ymdrech, yna byddwch yn gallu llywio trwy’r trafferthion hyn a dod allan â pherthnasoedd gweithio ystyrlon, yn ogystal ag adeiladu eich rhwydwaith a allai fod yn hynod fuddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol.