Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Sgiliau digidol

Yn y gweithle hybrid, mae nifer o sgiliau digidol sylfaenol y bydd angen i chi feddu arnynt er mwyn gweithio'n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys deall y rhaglenni allweddol a ddefnyddir yn eich sefydliad, yn ogystal â deall yr ymddygiad a'r disgwyliadau ar gyfer eu defnyddio, a'r gallu i addasu a dysgu yn y gwaith. Bydd bod yn addasadwy ac yn agored i hyfforddiant a dysgu yn hanfodol (Prince, 2021). Fel yn achos unrhyw dechnoleg, mae yna gromlin dysgu, ond os ydych yn gwneud yr ymdrech ac yn dilyn y cyfarwyddiadau neu'r hyfforddiant yn ofalus, nid oes unrhyw reswm pam na allwch ddysgu technolegau newydd yn gyflym ac yn effeithlon.

Offer a systemau

Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau'n defnyddio amrywiaeth o wahanol offer a systemau digidol, fel Microsoft Office 365 neu Google Drive y gall pob aelod o staff eu defnyddio, ar gyfer cydweithio, cyfathrebu a rhannu dogfennau. Ni fu technoleg gwaith a rennir erioed yn bwysicach, yn enwedig mewn gweithle hybrid.

Gan ddibynnu ar natur eich gwaith, efallai y bydd gofyn i chi ddefnyddio meddalwedd rheoli gwaith digidol (WMS). Mae offer fel Zoho, Trello, neu Monday yn ffordd gynyddol boblogaidd i weithwyr hybrid reoli eu tasgau dyddiol. Gyda llai o amser yn cael ei dreulio yn y swyddfa, mae'r rhaglenni hyn yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer helpu pawb i aros yn drefnus, ac ar y trywydd iawn, o fewn amgylchedd swyddfa.

Mae negeseuon a galwadau fideo yn agwedd yr un mor bwysig ar weithio hybrid. Mae defnyddio offer cyfathrebu rhithwir yn rhan hanfodol o weithio hybrid, ac mae'n werth sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo â'r offer hyn, fel sut i rannu sgrin, recordio cyfarfod, cynnau / diffodd eich meicroffon/camera yn gyflym, a mwy. Fel y nodwyd yn Adran 4 mae hefyd yn bwysig deall diwylliant eich sefydliad, gan gynnwys y 'defodau' a'r 'systemau' (Johnson a Scholes, 1992). Beth yw'r cod gwisg ar gyfer cyfarfodydd rhithwir? A fydd pawb yn cadw eu camera wedi’i gynnau? Beth yw cefndir priodol? Mae'n hanfodol deall y gwerthoedd hyn yn gyflym, er mwyn gwneud argraff gyntaf gadarnhaol, a sicrhau eich bod yn bodloni 'normau' y cwmni rydych yn gweithio iddo.

Mae gan lawer o sefydliadau mawr eu systemau mewnol eu hunain sydd wedi'u datblygu hefyd, a fydd yn meddu ar ofynion penodol ac yn gofyn i chi ddatblygu eich sgiliau ar gyfer defnyddio'r rhain. Dylai eich cyflogwr ddarparu hyfforddiant yn yr offer a'r systemau y mae'n rhaid i chi eu defnyddio, ond gallech fentro a magu eich hyder, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth trwy ddod o hyd i ganllawiau ar-lein (e.e. trwy wefan yr offer neu'r system) neu drwy ofyn i'ch cydweithwyr am awgrymiadau.

Gweithgaredd 10 Meddwl am offer ar gyfer cyfathrebu mewn gweithle hybrid

Timing: 15 munud

Mae'n debyg y bydd mynychu cyfarfodydd pell a hybrid yn rhan o'ch trefn waith bob dydd. Mae teimlo'n gyfforddus yn mynychu'r rhain, a meddu ar yr hyder i ddefnyddio'r offer cynadledda rhithwir, yn gofyn am sgiliau digidol, yn ogystal â rhai ymddygiadol. Cymerwch amser i fyfyrio ar y cwestiynau canlynol:

  1. Meddyliwch am adeg rydych chi wedi bod ar alwad fideo yn ystod y chwe mis diwethaf. Pa nodweddion ychwanegol o'r llwyfan fideogynadledda a ddefnyddiwyd, e.e. sgwrsio, rhannu sgrîn, ystafelloedd trafod? A ydych yn hyderus wrth ddefnyddio pob un o'r nodweddion hyn?

  2. Sut ydych yn teimlo wrth gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir? A yw dy gamera wedi’i gynnau/ei ddiffodd? A ydych yn cymryd rhan yn llawn? A yw'n dibynnu ar y math o gyfarfod?

Gall fod yn ddefnyddiol ceisio ymgyfarwyddo ag offer fideo-gynadledda, a ffordd 'ddiogel' o wneud hyn yw trefnu galwadau â ffrindiau neu gydweithwyr dibynadwy lle gallech fod yn llai pryderus am wneud camgymeriadau a gofyn cwestiynau.

I ddatblygu eich sgiliau ac ymddygiad digidol, ar gyfer gweithio ag offer a systemau, a chyfathrebu a chydweithio ar-lein, efallai y dymunwch astudio'r cyrsiau canlynol o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol (Cymru).