Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Cyflawni nodau

Yn ogystal â disgwyliadau diwylliannol, bydd gennych eich disgwyliadau o ran cynhyrchiant (eich tasg) a chanlyniadau (eich nodau/amcanion) hefyd. Gellir dadlau bod hyn wedi dod yn bwysicach fyth yn y gweithle hybrid. Heb amgylchedd swyddfa gyson, gall fod yn hawdd i gynhyrchiant lithro, yn enwedig os ydych yn wynebu pethau yn y cartref sy’n tynnu sylw, neu gynyddu os nad ydych yn rheoli eich amser yn effeithiol, oherwydd y gall fod yn hawdd iawn dechrau gwneud ychydig mwy o oriau pan nad oes yn rhaid i chi fewngofnodi a gadael swyddfa. O ganlyniad, mae sefydliadau'n ei chael yn hanfodol i osod nodau a chanlyniadau penodol i chi eu cyrraedd.

Os ydych yn dechrau eich swydd gyntaf un, mae cael amcanion i'w cyrraedd yn gallu bod yn frawychus. Beth os na fyddaf yn eu cyflawni? Sut fyddaf yn rheoli'r disgwyliadau newydd yma? Mae'r rhain i gyd yn bryderon dilys, ond mae'n bwysig peidio â chael eich llethu, oherwydd y bydd y rhan fwyaf o reolwyr yn adolygu'r rhain â chi’n rheolaidd. Tric defnyddiol yw ysgrifennu eich nodau, a chynllunio sut y byddwch yn eu cyflawni, gan eu categoreiddio yn ôl yr hyn sy'n dasg weithredol, ar unwaith, yn erbyn y rheiny a allai gymryd mwy o amser. Gall hyn helpu i leihau maint yr hyn rydych yn ei wynebu, ac mae'n eich helpu i ddod o hyd i ateb mwy hylaw i gyflawni nodau. Gall fod yn ddefnyddiol gosod targedau wythnosol, a rhestru tasgau pwysicaf eich wythnos (ar sail pa mor bell y maent yn cyfrannu at eich nodau), sy'n golygu y bydd gennych gynllun wythnosol (a dyddiol) a fydd yn eich helpu i gadw trefn ar eich tasgau a'ch canlyniadau.

Gweithgaredd 9 Gwneud nodau’n gyraeddadwy

Timing: Caniatewch o leiaf awr ar gyfer y gweithgaredd hwn

Defnyddiol a phoblogaidd o wneud nodau cyraeddadwy yw defnyddio'r acronym SMART. Mae'r tabl isod yn esbonio am beth mae pob llythyren yn sefyll.

Tabl 2 SMART
Specific (Penodol) Byddwch yn glir ac yn fanwl gywir am yr hyn y mae angen i chi ei wneud a’r hyn dymunwch ei gyflawni.
Measurable (Mesuradwy) Sut fyddwch yn gwybod eich bod chi wedi cyrraedd y nod? Beth yw'r canlyniad?
Achievable (Cyraeddadwy) A yw’r nod yn realistig? A yw'n rhywbeth y gallwch ei gyflawni?
Relevant (Perthnasol) A oes angen y nod? Pam ydych yn ei wneud ac a yw'n flaenoriaeth?
Time limited (Amser cyfyngedig) Beth yw'r dyddiad cau i'r nod gael ei gyflawni?
  1. Adolygwch eich nodau presennol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r dull nodau SMART.

  2. Nesaf, rhestrwch y tasgau wythnosol y mae angen i chi eu cwblhau er mwyn cyflawni'r nodau hyn. Rhowch flaenoriaeth i'r rhain yn nhrefn pwysigrwydd.

Gadael sylw

Gall torri nodau mwy, tymor hwy, yn ddarnau neu dasgau llai eu gwneud yn fwy cyraeddadwy. Er enghraifft, os dod yn rheolwr llinell yw’ch nod tymor hir, efallai eich bod wedi penderfynu ar rai nodau wythnosol fel:

  • siarad â'ch rheolwr llinell bresennol am yr hyn y mae'n ei olygu

  • chwilio ar fewnrwyd eich gweithle am arweiniad i gefnogi rheolwyr llinell

  • llunio rhestr o'r sgiliau perthnasol sydd gennych eisoes a'r rheiny sydd eu hangen arnoch i ddatblygu

  • ymchwilio i gyrsiau neu gymwysterau a allai eich helpu i ddatblygu'r sgiliau nad ydych yn meddu arnynt.

Sut bynnag rydych yn rheoli eich amser, gwnewch yn siŵr nad yw eich amcanion yn eich llethu, a chofiwch bob amser y gallwch ofyn am help os yw pethau'n mynd yn ormod!